Ardal a phentref yw Ystum Llwynarth ( ynganiad ) neu Ystumllwynarth (Saesneg: Oystermouth) sy'n gorwedd i'r de o ddinas Abertawe.
Yn weinyddol, mae'n ward etholiadol sy'n rhan o gymuned Y Mwmbwls, yn Sir Abertawe. Heddiw mae'r enw Saesneg 'Oystermouth' yn fath o enw amgen am bentref Y Mwmbwls ei hun. Poblogaeth: 4,315 (Cyfrifiad 2001).
Math | pentref, ward |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2.01 km² |
Cyfesurynnau | 51.5737°N 4.0072°W |
Cod SYG | W05000538 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rebecca Evans (Llafur) |
AS/au | Tonia Antoniazzi (Llafur) |
Mae ward etholiadol Ystum Llwynarth yn cynnwys: Norton, pentref Ystum Llwynarth, Y Mwmbwls, a Thistleboon, yn etholaeth seneddol Gŵyr. Mae'r ward yn ffinio ar Newton i'r gorllewin, West Cross i'r gogledd a Bae Abertawe i'r de a'r dwyrain. Mae'r ffin rhwng pentref Ystum Llwynarth a'r Mwmbwls yn annelwig erbyn heddiw, gyda phobl yn tueddu i'w gynnwys fel rhan o'r Mwmwbwls.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur) ac yn Senedd y DU gan Tonia Antoniazzi (Llafur).
Yn yr Oesoedd Canol cynnar, roedd Ystum Llwynarth yn un o ganolfannau pwysicaf Teyrnas Gŵyr lle ceid clas a gysylltir â Sant Illtud. Yng nghyfnod y Normaniaid, codwyd Castell Ystum Llwynarth yno, un o brif ganolfannau milwrol cwmwd Gŵyr. Yn ôl traddodiad, roedd y brudiwr Rhys Fardd (neu'r 'Bardd Bach' neu'r 'Bardd Cwsg') (fl. 1460-80) yn frodor o Ystum Llwynarth.
Sefydlwyd Rheilffordd Ystum Llwynarth (Oystermouth Railway) yn gynnar yn y 19g. Mae'r lein ar gau ers y 1960au ac yn cael ei defnyddio fel llwybr troed heddiw.
Dinas
Abertawe
Trefi
Casllwchwr · Clydach · Gorseinon · Pontarddulais · Treforys · Tre-gŵyr
Pentrefi
Burry Green · Cadle · Crofty · Dyfnant · Fforest-fach · Garnswllt · Y Gellifedw · Y Glais · Llandeilo Ferwallt · Llanddewi · Llangyfelach · Llangynydd · Llanilltud Gŵyr · Llanmorlais · Llanrhidian · Llan-y-tair-mair · Y Mwmbwls · Nicholaston · Oxwich · Pen-clawdd · Pengelli · Pennard · Pentre Poeth · Pont-lliw · Port Einon · Reynoldston · Rhosili · Sgeti · Y Crwys · Ynysdawe · Ynysforgan · Ystumllwynarth
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ystum Llwynarth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.