Roedd Gwyn Parry (1946 – 19 Mawrth 2014) yn actor Cymreig..
Gwyn Parry | |
---|---|
Ganwyd | 1946 Rachub |
Bu farw | 19 Mawrth 2014 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Ymunodd â Chwmni Theatr Cymru yn syth o Brifysgol Bangor a bu'n rhan o'i hadran arbrofol, Theatr Antur. Bu hefyd yn aelod o Gwmni'r Fran Wen
Ymddangosodd mewn sawl drama deledu gan gynnwys Pengelli, A470, Pobol y Cwm a Porc Peis Bach, Y Stafell Ddirgel, Treflan, Porthpenwaig, Llafur Cariad, Caryl a'r gyfres deledu i blant, Miri Mawr.
Actiodd mewn nifer o ddramâu ar Radio Cymru, gan gynnwys Y Streic Fawr, Cudd fy Meian, Gwylanod, Glesni, Cwacs a Dani.
Bu farw'n 67 oed yn ei gartref yng Nghaernarfon. Roedd yn dad i ddau o blant.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwyn Parry, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.