Actor o Gymro oedd Clive Roberts (1944 – 24 Rhagfyr 2020).
Clive Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 1944 |
Bu farw | 24 Rhagfyr 2020 Ysbyty Gwynedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor teledu |
Roedd fwyaf enwog am ei ran yn y gyfres gomedi boblogaidd, Fo a Fe a ddarlledwyd yng nghanol yr 1970au. Chwaraeau rhan George, mab Ephraim Hughes (Guto Roberts) y cyn-weinidog eisteddfodol a chapelog. Yn y gyfres roedd yn ŵr i Diana, Gaynor Morgan Rees.
Ymysg ei rannau eraill oedd Cliff James ar gyfres Pobol y Cwm rhwng 1974-1979 a Bili, 'conshi' yng nghynhyrchiad BBC Un Dau Tri (1972). Roedd hefyd yn rhan o gwmni Theatr yr Ymylon ac am gyfnod yn y 1980au bu'n ddarlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor.
Syfrdanwyd Cymru yn 1989 wedi iddo lofruddio ei gariad, yr actores Elinor Wyn Roberts (3 Mehefin 1954 – 5 Mawrth 1989), yn ei chartre' yn Y Felinheli. Yn 1990, cafwyd Roberts yn euog o'i llofruddio. Yn ôl y BBC, "er bod eu perthynas yn stormus iawn, syfrdanwyd byd y theatr Gymraeg." Treuliodd 12 mlynedd yn y carchar.
Yn ei flynyddoedd hwyrach roedd yn byw yn Stryd Yr Afon, Trefor. Bu farw yn Ysbyty Gwynedd wedi gwaeledd byr yn 2020.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Clive Roberts, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.