Castellnewydd Emlyn: Tref farchnad yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin

Tref farchnad a chymuned yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin yw Castellnewydd Emlyn (neu Castellnewi fel y'i gelwir yn lleol); ceir y ffurf Castell Newydd Emlyn hefyd.

Saif ar lan ddeheuol Afon Teifi. Weithiau ystyrir pentref Adpar, ar y lan ogleddol yng Ngheredigion, yn rhan o'r dref hefyd, er bod gan Adpar hanes hir fel hen fwrdeistref o fewn Ceredigion. Yno y saif Castell Trefhedyn, hen domen o'r Oesoedd Canol.

Castellnewydd Emlyn
Castellnewydd Emlyn: Hanes, Cyfleusterau ac atyniadau, Y Gymraeg
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.04°N 4.47°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000549 Edit this on Wikidata
Cod OSSN305405 Edit this on Wikidata
Cod postSA38 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Jonathan Edwards (Annibynnol).

Hanes

Castellnewydd Emlyn: Hanes, Cyfleusterau ac atyniadau, Y Gymraeg 
Y castell
Castellnewydd Emlyn: Hanes, Cyfleusterau ac atyniadau, Y Gymraeg 
Llun manwl

Safai Castellnewydd Emlyn yng nghantref Emlyn, ac fe'i henwir ar ôl y cantref hwnnw. Adeiladwyd y castell, sydd nawr yn adfeilion, gan y Normaniaid. Cafodd ei chyfeirio ati gyntaf ym Mrut y Tywysogion ym 1215 pan gipwyd hi gan Llywelyn ap Iorwerth.

Ymwelodd Gerallt Gymro ag Emlyn yn ystod ei daith trwy Gymru ym 1188.

Bellach, mae Castellnewydd Emlyn yn dref farchnad brysur.

Cyfleusterau ac atyniadau

Castellnewydd Emlyn: Hanes, Cyfleusterau ac atyniadau, Y Gymraeg 
Tîm criced Castellnewydd Emlyn yn 1893. Ffotograff o gasgliad John Thomas.

Yn y dref mae neuadd tref, oriel gelf, theatr (Attic Theatre) ac ysgol uwchradd (Ysgol Gyfun Emlyn). Lleolir Amgueddfa Wlân Cymru a Rheilffordd Dyffryn Teifi gerllaw.

Yn wahanol i nifer o drefydd gwledig Cymru, mae Castellnewydd Emlyn wedi llwyddo i gadw ystod helaeth o wasanaethau lleol, ar ffurf busnesau teuluol yn bennaf. Lleolir y dref mewn ardal amaethyddol, ac adlewyrchir hyn gan gyflogwr mwyaf y dref, sef ffatri Saputo sy'n cynhyrchu caws Mozzarella. Maen nhw'n un o'r cynhyrchwyr mwyaf o gaws Mozzarella ym Mhrydain.

Y Gymraeg

Hyd at y 1960au, roedd ymhell dros 90% o boblogaeth Castellnewydd Emlyn yn Gymry Cymraeg a'r Gymraeg oedd iaith gwaith ac aelwyd yn y dref. Ond fel mewn sawl rhan arall o'r wlad cafwyd mewnlifiadau sylweddol o bobl o'r tu allan i Gymru, Saeson yn bennaf, ac mae sefyllfa'r iaith wedi newid o ganlyniad. Er hynny, erys y Gymraeg yn iaith y mwyafrif, sef tua 69% o'r boblogaeth o 941, ac fe'i siaredir gan 90% o'r bobl yno a anwyd yng Nghymru (Cyfrifiad 2001).

Gwiber Castellnewydd Emlyn

Mae chwedl Gwiber Castellnewydd Emlyn yn adrodd hanes gwiber ffyrnig gydag adain, a oedd yn anadlu tân a mwg, yn glanio ar furiau'r castell a disgyn i gysgu yno. Ymledodd ofn i gychwyn, ond yn fuan dechreuodd pobl y dref gynllwynio i ddinistrio'r bwystfil. Dyfeisiodd milwr gynllun i rydio i'r Afon Teifi a cheisio saethu'r Wiber mewn rhan gwan o'i gorff. Disgynnodd y Wiber i'r afon wedi iddo gael ei saethu, gwenwynwyd yr afon gan y corff a lladdwyd yr holl bysgod.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Castellnewydd Emlyn (pob oed) (1,184)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Castellnewydd Emlyn) (611)
  
53.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Castellnewydd Emlyn) (767)
  
64.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Castellnewydd Emlyn) (195)
  
38.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Gastellnewydd Emlyn

  • Evan Herber Evans (1836-96), gweinidog annibynnol.
  • Dill Jones (1923-84), pianydd brasgam jas,
  • John Jones (Mathetes) (1821-1878). Awdur a gweinidog.
  • Peter Rees Jones (1843-1905), sefydlydd siop adrannau.
  • Allen Raine (1836-1908), nofelydd.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Castellnewydd Emlyn HanesCastellnewydd Emlyn Cyfleusterau ac atyniadauCastellnewydd Emlyn Y GymraegCastellnewydd Emlyn Gwiber Castellnewydd Emlyn Cyfrifiad 2011Castellnewydd Emlyn Pobl o Gastellnewydd EmlynCastellnewydd Emlyn Gweler hefydCastellnewydd Emlyn CyfeiriadauCastellnewydd EmlynAdparAfon TeifiCastell TrefhedynCeredigionCymuned (Cymru)MarchnadMwnt a beiliOesoedd CanolSir GaerfyrddinTref

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Ceulan-a-MaesmorRhywedd amrywiolPeredur ap GwyneddRadioland MurdersParisShowdown in Little TokyoLatfiaIfan Huw DafyddWhatsAppHouse of StrangersAwdurJanu SirsasanaRhif Llyfr Safonol RhyngwladolIndonesiaThreads of DestinyBerlinDas Leben der AnderenPryfBiperidenChipstead, CaintCerddoriaeth dawns electronigGweriniaeth Pobl TsieinaGwyn ap NuddDewi Myrddin HughesFC VaduzShadow CompanyHomerosRoad to UtopiaIesu1742Huw ChiswellMenter gydweithredolCosta RicaRhestr cerddorion R&BOwain WilliamsRiders of The DarkBancDie Liebesschule Der Josefine MutzenbacherPoenliniaryddH. G. WellsEingl-SacsoniaidMi Nina Mi VidaRiders of The TimberlineLucy WalterAmbush BayBrythoniaidWhispering SmithCanser serfigolGruffudd ab yr Ynad CochSefydliad ConfuciusBrwneiRia JonesPennsylvaniaWicirywogaethAnna VlasovaDafadDryw cactwsGwlad BelgAngela 2EidalegA Bug's LifeThe Lady From CheyenneGwyn ParryGordon BanksCalsugnoWaxhaw, Gogledd CarolinaHed PETrawsryweddSidyddRhestr o Siroedd FloridaGhost DanceSalman, brenin Sawdi Arabia🡆 More