Cymuned yng Nghaerdydd yw Y Ddraenen neu Draenen Pen-y-graig (Saesneg: Thornhill).
Mae'n gorwedd ar gyrion gogleddol y ddinas ar y ffordd i Gaerffili.
Math | cymuned, maestref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5386°N 3.1911°W |
Cod SYG | W04001006 |
Cod OS | ST17478283 |
Tai sydd yn yr ardal yn bennaf, a'r rhan fwyaf yn dyddio o'r 1980au neu'n ddiweddarach. Mae hefyd sawl tafarn ac archfarchnad Sainsbury's.
Ychydig iawn o safleoedd hanesyddol sydd yn y gymuned. Mae gweddillion castell ar y ffin gyda Chaerffili, sef Castell Morgraig.
Lleolir Draenen Pen-y-graig yn ward Llanisien Cyngor Dinas Caerdydd.
Dim ond Ysgol Gynradd y Ddraenen sydd wedi ei lleoli yn yr ardal ei hun. Darperir addysg gynradd Gymraeg gan Ysgol y Wern yn Llanisien.
Bydd plant o'r ardal naill ai yn mynychu ysgol gyfrwng Saesneg, Ysgol Uwchradd Llanisien, neu Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn Ystum Taf.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Ddraenen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.