Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw'r Rhath (Saesneg: Roath).
Lleolir i'r gogledd-ddwyrain o ganol y dref, ac yn ymestyn o Adamsdown i'r de at Barc y Rhath i'r gogledd. Mae'n cynnwys ward etholaethol Plasnewydd. Credir y daw'r enw o'r Gwyddeleg am gaer, sef ráth, neu gall darddu o enw anheddiad rhufeinig Caerdydd, sef Ratostabius.
Math | dosbarth, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4911°N 3.1606°W |
Cod SYG | W04000856 |
Prif strydoedd siop y Rhath yw Albany Road, City Road, a Wellfield Road. Mae'n nodweddiadol am y teimlad rhanol-wledig, gyda strydoedd o dai o Oes Fictoria a choed wedi eu plannu ar hyd nifer o'r strydoedd. Mae poblogaeth yr ardal yn dod o gefndir eang, ac yn gymysgedd o fyfyrwyr (gan ei fod yn agos i gampysiau'r Brifysgol), poblogaeth sylweddol o bobl o dras lleiafrif ethnig a llawer o bobl ifanc proffesiynol. Mae cymysgedd o'r tlawd a'r cyfoethog yn yr ardal, ond mae'r cyfoeth wedi ei leoli yng ngogledd y gymuned yn bennaf, ar gyrion Parc y Rhath a'r meysydd chwarae.
Lleolir Tŷ'r Cymry, canolfan Gymraeg yn y ddinas a agorwyd yn 1936, yn 11, Gordon Rd, yn y Rhâth.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Rhath, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.