Maestref a chymuned yng Nghaerdydd ydy Llanedern (Saesneg: Llanedeyrn).
Mae'r rhan helaethaf ohoni wedi'i lleoli yng nghymuned Pen-twyn.
Math | cymuned, maestref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5136°N 3.1514°W |
Cod SYG | W04000998 |
Cyfeiria'r enw at Edern (benthyciad o’r Lladin Eternus), un o seintiau'r Brythoniaid. Ceir enghreifftiau hanesyddol niferus o'r sillafiad Llanedarn, sydd yn dangos ôl yr ynganiad yn nhafodiaith y Wenhwyseg. Ceisiodd J. H. Matthews (archifydd Corfforaeth Caerdydd) i sicrhau’r defnydd o 'Llanedern' mor gynnar â 1905.
Yn Llanedern mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern (Ysgol Uwchradd Llanedern cynt) ac ysgol gynradd Gymraeg y Berllan Deg. Mae'r enw Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn rhoi i ni ynganiad cywir y faesdref.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llanedern, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.