Mae mosg yn adeilad ar gyfer dilynwyr crefydd Islam.
Fel rheol, defnyddir yr enw Arabeg masjid (luosog masajid) - مسجد. Prif ddiben y mosg yw fel lle i'r credinwyr gyfarfod i weddïo, y salat. Erbyn hyn maent i'w gweld ymhob rhan o'r byd. O ran pensaernïaeth, maent fel rheol yn dilyn arddull nodweddiadol Islamaidd, gydag un neu fwy o dyrau, y minaret. Cyn y pum gweddi ddyddiol mae'r muezzin yn galw'r credinwyr o'r minaret. Heblaw lleoedd i addoli, maent yn leoedd i ddysgu am Islam a chyfarfod credinwyr eraill.
Rhan o gyfres ar
|
---|
Athrawiaeth |
Allah · Undod Duw |
Arferion |
Cyffes Ffydd · Gweddïo |
Hanes ac Arweinwyr |
Ahl al-Bayt · Sahaba |
Testunau a Deddfau |
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
Enwadau |
Sunni · Shi'a |
Diwylliant a Chymdeithas |
Astudiaethau Islamig · Celf |
Islam a chrefyddau eraill |
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Gweler hefyd |
Islamoffobia · Termau Islamig |
Fel rheol disgwylir i unrhyw un sy'n ymweld â mosg dynnu ei esgidiau a'u gadael wrth y drws. Yn rhai gwledydd Islamaidd ni chaniateir i ymwelwyr nad ydynt yn Fwslimiaid fynd i mewn i fwy nag ambell fosg, ond mewn gwledydd eraill mae croeso iddynt fynd i mewn i unrhyw un. Sefydlwyd y mosg cyntaf yn y Deyrnas Unedig yng Nghaerdydd yn 1860.
Ymhlith y mosgau enwocaf mae:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mosg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.