Cangen weinyddol Cynulliad Gogledd Iwerddon, senedd datganoledig Gogledd Iwerddon, ydy Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.
Mae'n atebol i'r Cynulliad a chafodd ei sefydlu yn unol â thelerau Deddf Gogledd Iwerddon 1998, a ddaeth yn sgîl Cytundeb Belffast (neu Gytundeb Dydd Gwener y Groglith).
Mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cynnwys y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog a nifer o weinidogion gyda phortffolios a dyletswyddau amrywiol. Mae prif blaid y cynulliad yn apwyntio'r nifer fwyaf o weinidogion i'r Gweithrediaeth, ac eithrio'r Gweinidog Cyfiawnder a gaiff ei ethol gan bleidlais draws-gymunedol. Mae hon yn un o dair llywodraeth ddatganoledig yn y Deyrnas Unedig, gyda'r lleill yn yr Alban ac yng Nghymru.
Wedi cyfnod o anghydfod a diffyg cydweithio ar ddechrau'r 2000 cynhaliwyd Cytundeb St Andrews yn 2006. Gydag hyn cafwyd addewid a amserlen i gynyddu canran o'r gymuned cenedlaetholaidd a Chatholig yng ngweithlu Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon. Cafwyd addewid o hawliau iaith Gwyddeleg ond ni wireddwyd hyn gan arwain at sefydlu mudiad iaith An Dream Dearg yn 2016.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.