Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon: a gymrodd lle Cwnstablaeth Frenhinol Ulster yn 2001

Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, enw swyddogol Police Service of Northern Ireland (Talfyriad: PSNI; Gwyddeleg:Seirbhís Póilíneachta Thuaisceart Éireann; ​Sgoteg Wlster: Polis Service or Norlin Airlan) yw'r heddlu sy'n gwasanaethu Gogledd Iwerddon.

Mae’n olynydd i Gwnstabliaeth Frenhinol Ulster (yr RUC) ar ôl iddi gael ei diwygio a’i hailenwi yn 2001 ar argymhelliad Adroddiad Patten.

Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon
Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon: Cefndir, Gwahaniaethau â Heddluoedd eraill y DU, Rheolaeth
Enghraifft o'r canlynolheddlu Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu4 Tachwedd 2001 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganCwnstabliaeth Frenhinol Ulster Edit this on Wikidata
Prif weithredwrGeorge Hamilton Edit this on Wikidata
RhagflaenyddCwnstabliaeth Frenhinol Ulster Edit this on Wikidata
PencadlysBelffast Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.psni.police.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cefndir

Er bod mwyafrif swyddogion PSNI yn Brotestaniaid Ulster (sy'n dueddol o fod yn Unoliaethwyr ac am aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig), nid yw hyn mor amlwg ag yr oedd yn yr RUC oherwydd polisïau gweithredu cadarnhaol.

Roedd yr RUC yn heddlu arfog a chwaraeodd ran allweddol wrth blismona’r gwrthdaro treisgar ('yr Helyntion') o 60au hyd at 90au'r ganrif ddiwethaf. Fel rhan o Gytundeb Gwener y Groglith, cafwyd cytundeb i gyflwyno gwasanaeth heddlu newydd, yn seiliedig i ddechrau ar gorfflu swyddogion yr RUC. Fel rhan o’r diwygio, crëwyd Comisiwn Heddlu Annibynnol ar gyfer Gogledd Iwerddon (Comisiwn Patten) a disodlwyd yr RUC gan y PSNI ar 4 Tachwedd 2001. Yn Neddf yr Heddlu (Gogledd Iwerddon) Deddf 2000 enwyd y gwasanaeth heddlu newydd yn Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (gan ymgorffori Cwnstabliaeth Frenhinol Ulster) a'i fyrhau i 'Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon' yn aml.

Mae pob plaid wleidyddol fawr yng Ngogledd Iwerddon bellach yn cefnogi'r PSNI. Ar y dechrau, gwrthododd Sinn Féin, a oedd yn cynrychioli tua chwarter pleidleiswyr Gogledd Iwerddon ar y pryd, gefnogi'r PSNI nes bod argymhellion Comisiwn Patten wedi'u gweithredu'n llawn. Fodd bynnag, fel rhan o Gytundeb St Andrews, cyhoeddodd Sinn Féin ei fod yn derbyn y PSNI yn llawn yn Ionawr 2007.

Gwahaniaethau â Heddluoedd eraill y DU

O’i gymharu â’r 44 heddlu tiriogaethol arall yn y Deyrnas Unedig, y PSNI yw’r trydydd mwyaf o ran nifer y swyddogion (ar ôl y Gwasanaeth Heddlu Metropolitan a Heddlu’r Alban) a’r ail fwyaf o ran yr ardal ddaearyddol mae hi'n gyfrifol amdani, ar ôl Heddlu’r Alban. Mae'r PSNI tua hanner maint y Garda Síochána, Gweriniaeth Iwerddon, o ran niferoedd swyddogion.

Rheolaeth

Mae SPIN yn cael ei oruchwylio gan bwyllgor materion cartref senedd Gogledd Iwerddon.

Mae yna hefyd Ombwdsmon Heddlu yng Ngogledd Iwerddon sy'n delio â chwynion posibl am y modd y cynhelir ymchwiliadau SPIN. Nuala O'Loan sy'n dal y swydd ar hyn o bryd.

Mae’r Comisiynydd Goruchwylio yn sicrhau bod argymhellion Adroddiad Patten yn cael eu gweithredu mewn ffordd ddealladwy a dibynadwy.

Recriwtio

Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon: Cefndir, Gwahaniaethau â Heddluoedd eraill y DU, Rheolaeth 
Heddwas yn Donegal Square, Belffast, Mai 2010. Noder y dryll na cheir gan heddluoedd eraill y Deyrnas Unedig

Ar hyn o bryd, mae'r PSIN yn gweithredu polisi o wahaniaethu cadarnhaol gyda'r nod o sicrhau bod 50% o'i haelodau yn perthyn i gymuned Gatholig Gogledd Iwerddon, gyda'r nod o wrthdroi'r sefyllfa o anghydbwysedd a ddioddefwyd gan yr RUC, yn ôl argymhellion y Adroddiad Patten. Cynlluniwyd enw a symbolau'r sefydliad i atal y naill neu'r llall o'r ddwy brif gymuned rhag teimlo bod gwahaniaethu yn eu herbyn. Yn 2006, roedd 20% o aelodau SPIN eisoes yn Gatholigion, gwelliant o gymharu ag 8.3% yn yr hen RUC.

Polisïau

Ym mis Medi 2006, cadarnhawyd bod uwch swyddog y Gwasanaeth, Judith Gillespie, wedi cymeradwyo polisi lle defnyddir plant fel ysbiwyr gan gynnwys trosglwyddo gwybodaeth am eu teuluoedd eu hunain (mewn amgylchiadau eithriadol), ond nid am eu rhieni.

Cyfeiriadau a llyfryddiaeth

Weitzer, Ronald. 1995. Policing Under Fire: Ethnic Conflict and Police-Community Relations in Northern Ireland (Albany, NY: State University of New York Press).

Weitzer, Ronald. 1996. “Police Reform in Northern Ireland,” Police Studies, vol. 19, rhif 2. tt.27-43.

Weitzer, Ronald. 1992. “Northern Ireland's Police Liaison Committees,” Policing and Society, vol.2, rhif 3, tt.233-243.

Arfbeisiau rhengoedd y gwasanaeth

Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon: Cefndir, Gwahaniaethau â Heddluoedd eraill y DU, Rheolaeth 

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon: Cefndir, Gwahaniaethau â Heddluoedd eraill y DU, Rheolaeth  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon: Cefndir, Gwahaniaethau â Heddluoedd eraill y DU, Rheolaeth  Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon CefndirGwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon Gwahaniaethau â Heddluoedd eraill y DUGwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon RheolaethGwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon RecriwtioGwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon PolisïauGwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon Cyfeiriadau a llyfryddiaethGwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon Arfbeisiau rhengoedd y gwasanaethGwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon Gweler hefydGwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon Dolenni allanolGwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon CyfeiriadauGwasanaeth Heddlu Gogledd IwerddonCwnstablaeth Frenhinol UlsterGogledd IwerddonGwyddelegSgoteg Wlster

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Twristiaeth yng NghymruY Deyrnas UnedigStygianEroticagrkgjPeiriant WaybackHuluBadmintonLlanw LlŷnHelen LucasIeithoedd BerberLidarYsgol RhostryfanEconomi AbertaweRhyw diogelY BeiblBrixworthRaymond BurrPwyll ap SiônTomwelltCaintPidynRhestr ffilmiau â'r elw mwyafWsbecistanGwladBae CaerdyddGarry KasparovBibliothèque nationale de FranceReaganomegAdeiladuTymhereddAdolf Hitler1895Gertrud ZuelzeruwchfioledIron Man XXXSue RoderickCuraçao2024BolifiaMartha WalterGwainSwydd NorthamptonMarie AntoinetteMervyn KingCelyn JonesCapybaraTajicistanLlwyd ap IwanNewid hinsawdd27 TachweddTrydanPuteindraDewi Myrddin HughesLliniaru meintiolMoeseg ryngwladolDonostiaNicole LeidenfrostWuthering HeightsJulianCilgwriLlan-non, CeredigionNational Library of the Czech RepublicSimon BowerURLHanes economaidd CymruBilbo🡆 More