Dinas yn Swydd Down, Gogledd Iwerddon, yw Bangor (Gwyddeleg: Beannchar), gyda phoblogaeth drefol o 76,851 o bobl (Cyfrifiad 2001), sy'n ei gwneud y dref fwyaf poblog yng Ngogledd Iwerddon.
Tref glan môr yw hi, a leolir ar lan ddeheuol Belfast Lough yn Ardal Fetropolitan Belfast. Marina Bangor yw un o'r rhai mwyaf yn Iwerddon gyfan, gyda statws Baner Las. Yn 2007, cafodd y dref ei hethol gan wylwyr UTV fel y lle mwyaf deniadol i fyw ynddo yng Ngogledd Iwerddon.
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 61,011 |
Gefeilldref/i | Virginia Beach, Virginia, Bregenz |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Down |
Gwlad | Gogledd Iwerddon |
Cyfesurynnau | 54.66°N 5.67°W |
Tref breswyl ydyw yn bennaf, a gellid ei hystyried yn dref gomiwter ar gyfer ardal Belffast Fwyaf, a gysylltir â Bangor gan y ffordd A2 a rheilffordd uniongyrchol. Gorwedd Bangor 13.6 milltir (22 km) o ganol dinas Belfast ac yn agos iawn hefyd i Maes Awyr George Best Dinas Belffast.
Enw Gwyddeleg gwreiddiol tref a phlwyf Bangor yw Beannchar. Gwreiddiau Beannchar yw beann, 'pigyn' ac ymddengys i'r enw gyfeirio at loc-palis o fangorwaith o gwmpas y fynachlog gynnar oedd yma ac a sefydlwyd gan Sant Comgall c. 555AD.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bangor, Gogledd Iwerddon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.