Telynores a chantores sy'n canu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yw Gwenan Gibbard.
Ganwyd hi yn ardal Pwllheli, Gwynedd. Wedi graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor a chwblhau gradd feistr yno mewn perfformio ac ymchwil ym maes cerddoriaeth Cymru, aeth i Lundain i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol.
Gwenan Gibbard | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor |
Bu'n enillydd ym mhrif gystadlaethau telyn a chanu'r Eisteddfod Genedlaethol, Yr Ŵyl Gerdd Dant a'r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon, a bu'n cynrychioli Cymru mewn gwyliau megis Gŵyl Lorient yn Llydaw, Cyngres Delynau'r Byd yn Nulyn, Gŵyl Delynau Ryngwladol yng Nghaeredin, Celtic Connections, Glasgow a Gŵyl Gymreig Gogledd America, Cincinnati.
Mae ganddi ddau gryno ddisg ar label Sain, Y Gwenith Gwynnaf a Sidan Glas.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwenan Gibbard, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.