Teyrnas oedd Teyrnas Iwerddon (Gwyddeleg Clasurol: Ríoghacht Éireann; Gwyddeleg Modern: Ríocht Éireann; Saesneg: Kingdom of Ireland) a fu'n ddibynnol ar Deyrnas Lloegr o 1542 i 1707 ac ar Brydain Fawr o 1707 i 1800.
Daeth holl ynys Iwerddon dan reolaeth Coron Loegr yn sgil concwest y Tuduriaid yn y 1530au a datganwyd Harri VIII, brenin Lloegr yn frenin Iwerddon yn 1542 a hynny mewn undeb personol. Gweinyddid y deyrnas drwy raglaw a gafodd ei benodi gan y frenhiniaeth i lywodraethu yng Nghastell Dulyn. Roedd gan Deyrnas Iwerddon senedd, pendefigaeth, cyfraith, ac eglwys ar wahân, ond cychwynnwyd ar gyfnod hir o Seisnigeiddio ac Anglicaneiddio gan yr Oruchafiaeth Brotestannaidd a'r Eingl-Wyddelod. Yn sgil Deddfau Uno 1800, diddymwyd Teyrnas Iwerddon a'i senedd, a sefydlwyd Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ar 1 Ionawr 1801.
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Dulyn |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 84,000 km² |
Cyfesurynnau | 53.3333°N 6.25°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Parliament of Ireland |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Iwerddon |
Pennaeth y wladwriaeth | Siôr III, brenin y Deyrnas Unedig |
Crefydd/Enwad | Protestant Ascendancy |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Teyrnas Iwerddon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.