Roedd Teyrnas Prydain Fawr (a elwir weithiau, ond yn anghywir, yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr), yn wladwriaeth yng Ngorllewin Ewrop, a fodolai o 1707 hyd 1800.
Cafodd ei chreu trwy uniad Teyrnas yr Alban a Theyrnas Lloegr, dan Ddeddfa Uno 1707, i greu teyrnas unigol yn cynnwys Prydain Fawr i gyd (Lloegr, Cymru a'r Alban heddiw). Addaswyd senedd Lloegr i greu senedd newydd, Senedd Prydain Fawr yn San Steffan, Llundain, gyda llywodraeth newydd seiliedig ar hen lywodraeth Lloegr, i'w rheoli. Paratowyd y tir ar gyfer yr uniad gan y ffaith fod teyrnasoedd yr Alban a Lloegr (a oedd yn cynnwys Cymru at bwrpasau deddfwriaethol) wedi rhannu'r un teyrn ers i Iago VI, Brenin yr Alban, ddod yn frenin Lloegr yn 1603.
Delwedd:Coat of Arms of Great Britain (1707-1714).svg, Coat of Arms of Great Britain in Scotland (1707-1714).svg, Coat of arms of Great Britain (1714–1801).svg, Coat of Arms of Great Britain in Scotland (1714-1801).svg | |
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Llundain |
Poblogaeth | 10,500,000, 9,250,000 |
Sefydlwyd |
|
Anthem | God Save the King |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gorllewin Ewrop |
Gwlad | Teyrnas Prydain Fawr |
Arwynebedd | 230,977 km² |
Cyfesurynnau | 51.5°N 0.13°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Senedd Prydain Fawr |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Prydain Fawr |
Pennaeth y wladwriaeth | Siôr III, brenin y Deyrnas Unedig |
Arian | punt sterling |
Cymerodd Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon le Teyrnas Prydain Fawr yn 1801 pan lyncwyd Teyrnas Iwerddon gan Ddeddf Uno 1800 ar ôl methiant y Gwrthryfel Gwyddelig yn 1798.
Am fod tri brenin o'r enw Siôr yn rheoli, cyfeirir at gyfnod eu teyrnasiad fel y "Cyfnod Sioraidd."
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Teyrnas Prydain Fawr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.