Mae trwydded meddalwedd yn offeryn statudol sy'n rheoli ailddosbarthu meddalwedd a'r defnydd a wneir ohoni.
Ar wahân i feddalwedd yn y parth cyhoeddus, yn y rhan fwyaf o wledydd, mae pob meddalwedd yn cael ei warchod dan hawlfraint, yn y ffurf cod ffynhonnell a chod y gwrthrych (object code). Fel arfer, mae'r trwydded meddalwedd yn rhoi'r hawl i'r defnyddiwr (y term cyfreithiol yw 'y trwyddedig') i ddefnyddio un neu ragor o gopiau o'r feddalwedd; heb y drwydded, byddai defnyddio'r feddalwedd o bosib yn drosedd.
Dan gyfraith hawlfraint, y ddau brif gategori yw:
Y gwahaniaeth cysyniadol amlwg rhwng y ddau yw yr hawliau i addasu ac ailddefnyddio'r meddalwedd, gan gwsmer. Mae trwyddedau FOSS yn caniatáu i'r cwsmer wneud y ddau beth yma. Ar y llaw arall, nid yw meddalwedd perchnogol, fel arfer, yn caniatáu'r naill na'r llall, a chuddir y cod ffynhonnell. Fel arfer mae meddalwedd ar drwydded FOSS yn rhoi'r cod mewn ffeil ar gyfer y defnyddiwr. Gelwir cod meddalwedd perchnogol, fodd bynnag, yn "ffynhonnell gaeedig".
Yn ogystal â rhoi hawliau a gosod cyfyngiadau ar ddefnyddio meddalwedd â hawlfraint arno, fel arfer mae trwyddedau meddalwedd yn cynnwys darpariaethau sy'n dyrannu atebolrwydd a chyfrifoldeb rhwng y partïon sy'n ymrwymo i gytundeb y drwydded. Mewn testun trwydded meddalwedd masnachol, yn aml yn cyfyngu atebolrwydd, y gwarantau ac ymwadiadau gwarantau, ac indemniad - os yw'r feddalwedd yn torri hawliau eiddo deallusol unrhyw un.
Yr hawliau a roddir | Parth cyhoeddus | Trwyddedau Goddefol FOSS | Trwyddedau Hawlfraint (Copyleft) FOSS (e.e. GPL) | Rhadwedd/Rhanwedd/ Freemium | Trwyddedau meddalwedd perchnogol | Masnachu Trade secret |
---|---|---|---|---|---|---|
Cedwir yr Hawlfraint | Na | Ie | Ie | Ie | Ie | llym iawn |
Yr hawl i berfformio | Ie | Ie | Ie | Ie | Ie | Na |
Yr hawl i arddangos | Ie | Ie | Ie | Ie | Ie | Na |
Yr hawl i gopio | Ie | Ie | Ie | Yn aml | Na | Ceir llawer o achosion llys |
Yr hawl i addasu | Ie | Ie | Ie | Na | Na | Na |
Yr hawl i ailddefnyddio | Ie | Oes, dan yr un drwydded | Oes, dan yr un drwydded | Yn aml | Na | Na |
Yr hawl i aildrwyddedu | Ie | Ie | Na | Na | Na | Na |
Meddalwedd enghreifftiol | SQLite, ImageJ | Apache web server, ToyBox | Linux kernel, GIMP, OBS | Irfanview, Winamp, League of Legends | Windows, a'r rhan fwyaf o gemau masnachol, a'u DRMs, Spotify, xSplit, TIDAL | Server-side Cyfrifiaduro yn y Cwmwl Gemau gan Blizzard Entertainment, Rockstar, Activision, etc. PlayStation Network a Xbox Live |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Trwydded meddalwedd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.