Mae rhanwedd yn gynnyrch digidol a roddir am ddim; gall y cynnyrch fod yn feddalwedd, yn gêm gyfrifiadurol neu'n wasanaeth ar y we.
Fel arfer, er fod y pris am ddim, codir am rannau atodol, ychwanegol. Defnyddir y math hwn o strategaeth prisio gan y diwydiant meddalwedd ers y 1980au, a manylir ar yr hawliau mewn trwydded meddalwedd penodol.
Mae rhadwedd a "free-to-play" yn amrywiadau ar y math hwn o strategaeth marchnata. Er bod cynnyrch rhanwedd yn bodoli ers yr 1980au, ni fathwyd enw arno'n Saesneg tan 2006, mewn blog gan y cyfalafwr Fred Wilson a Jarid Lukin o'r cwmni Alacra, a bathwyd y term Cymraeg yn y 2010au.
Gellir edrych ar feddalwedd a gwasanaeth rhanwedd fel abwyd a deflir i'r dŵr, am ddim, gyda'r gobaith o ddal pysgodyn, y cwsmer! Gair cyfansawdd sydd yma: 'rhan' a 'wedd' fel a geir yn y gair 'meddalwedd'.
Enghreifftiau:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhanwedd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.