David James Rees, CBE (31 Mawrth 1913 – 15 Tachwedd 1983) oedd un o brif chwaraewyr golff Prydain cyn ac ar ôl Yr Ail Ryfel Byd.
Dai Rees | |
---|---|
Ganwyd | 31 Mawrth 1913 Ffontygari |
Bu farw | 10 Medi 1983, 15 Tachwedd 1983 o damwain cerbyd Barnet |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | golffiwr |
Gwobr/au | CBE, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC |
Chwaraeon | |
Tîm/au | European Ryder Cup team |
Yn enillydd nifer o dwrnameintiau mawreddog ym Mhrydain, Ewrop ac ymhellach i ffwrdd, caiff Rees ei gofio orau fel capten tîm Cwpan Ryder Prydain Fawr a drechodd yr Unol Daleithiau yng Nghlwb Golff Lindrick yn Swydd Efrog, Lloegr, yn 1957. Dyma'r unig dro i'r Unol Daleithiau gael eu trechu yn y gystadleuaeth rhwng 1933 a 1985.
Cafodd Rees ei eni yn Ffont-y-gari, yn ymyl Y Barri ym Mro Morgannwg, Cymru. Cafodd ei godi yn y byd golff, gan fod ei dad yn bennaeth proffesiynol a'i fam yn stiward yng Nghlwb Golff Leys. Symudodd ei deulu i Aberdâr, lle ymgymerodd ei dad gyda'r swydd o brif hyfforddwr proffesiynol yng Nghlwb Golff Aberdâr.
Yn ystod yr Yr Ail Ryfel Byd, bu Rees yn gweithio fel gyrrwr i Air vice-marshal Harry Broadhurst.
Dechreuodd Rees ei yrfa yn 16 oed fel cynorthwydd proffesiynol i'w dad yng nghlwb Golff Aberdar. Cymerodd Rees drosodd fel y person proffesiynol yn nghlwb Golff South Herts yn dilyn marwolaeth Harry Vardon yn 1937. Fel Vardon o'i flaen, parhaodd yn ei swydd tan ei farwolaeth yn 1983.
Enillodd Rees 39 o deitlau ar draws y byd mewn twrnamentau pwysig yn cynnwys pedair yng Ngemau Chwarae News of the World, dwy Meistri Prydain, y Twrnamentau Agored yn yr Iwerddon, Gwlad Belg a'r Swisdir, a'r Bencampwriaeth PGA yn Ne Affrig.
Mae Rees yn cael ei ystyried fel un o'r chwaraewyr golff Prydeinig gorau erioed i ennill Y Bencampwriaeth Agored. Daeth yn ail dair gwaith, yn 1953, 1954 a 196i, ond efallai y daeth y cyfle orau iddo ennill yn 1946, ond sicrhaodd 80 yn y rownd derfynol i lithro i'r pedwerydd safle.
Parhaodd Rees i chwarae'n gystadleuol tan llawer yn hŷn, a pharhaodd i fod yn llwyddiannus, yn enwedig mewn twrnamentau 'match play'. Cyrhaeddodd ffeinal Match Play News of the World tra yn ei bumdegau, yn 1967 ac eto yn 1969, ar bob achlysur yn ennill ar nifer o chwaraewyr oedd bron hanner ei oedran dros 18 twll. Cafodd hefyd beth llwyddiant yn nhwrnamentau 'stroke play' yn cynnwys dod yn ail yn y Martini International yn 1973 pan yn 60 oed. Pan sefydlwyd y Daith Ewropeaidd ffurfiol yn 1972, roedd dyddiau gorau Rees wedi pasio, er iddo gwblhau'r daith newydd am nifer o dymhorau.
Chwaraeodd Rees mewn 9 Cwpan Ryder i gyd, a chafodd ei ddewis ar gyfer 1939 ond fe'i gohiriwyd. Roedd ganddo record ennill-colli-cyfartal o 7-10-1, a oedd dipyn yn uwch na'r cyfartaledd i chwaraewr Prydeinig mewn cyfnod pan oedd y tîm Prydeinig wedi dioddef nifer o golledion trwm.
Bu Rees yn gapten i'r tim Cwpan Ryder Prydain Fawr ar bump achlysur, yn 1955, 1957, 1959, 1961 a 1967. Yr un mwyaf cofiadwy oedd mewn achlysur yn Lindrick yn 1957 pryd enillodd Prydain o saith a hanner - bedwar a hanner i roi diwedd ar record yr Unol Daleithiau a oedd wedi ennill y cwpan ers 1933. Ar ôl adennnill y Cwpan Ryder yn 1959, ni fu i'r Unol Daleithiau golli eto tan 1985, ac erbyn hynny roedd y tîm Prydeinig wedi ei ehangu i gynnwys gweddill Ewrop.
Yn 1957, yn dilyn llwyddiant Prydain yn y Cwpan Ryder, enillodd Rees Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC, sydd efallai y wobr fwyaf adnabyddus mewn chwaraeon. Derbyniodd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 1958.
Yn 1983, bu Rees mewn damwain car ar ei ffordd adref ar ôl bod yn gwylio gem pêl-droed Arsenal. Bu farw rai misoedd yn ddiweddarach, yn 70 oed, ar ol methu gwella o'i anafiadau.
gall y rhestr hon fod yn anghyflawn
Dim ond yn yr Open Championship chwaraeodd Rees
Tournament | 1935 | 1936 | 1937 | 1938 | 1939 |
---|---|---|---|---|---|
The Open Championship | T31 | 11 | T21 | T13 | 12 |
Tournament | 1940 | 1941 | 1942 | 1943 | 1944 | 1945 | 1946 | 1947 | 1948 | 1949 |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
The Open Championship | NT | NT | NT | NT | NT | NT | T4 | T21 | T15 | CUT |
Tournament | 1950 | 1951 | 1952 | 1953 | 1954 | 1955 | 1956 | 1957 | 1958 | 1959 |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
The Open Championship | T3 | T12 | T27 | T2 | T2 | T27 | T13 | T30 | T14 | T9 |
Tournament | 1960 | 1961 | 1962 | 1963 | 1964 | 1965 | 1966 | 1967 | 1968 | 1969 |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
The Open Championship | T9 | T2 | CUT | T42 | T38 | CUT | 36 | CUT | DNP | CUT |
Tournament | 1970 | 1971 | 1972 | 1973 | 1974 |
---|---|---|---|---|---|
The Open Championship | DNP | CUT | DNP | DNP | CUT |
NT = Dim twrnament DNP = Ddim wedi chwarae CUT = colli allan hanner-ffordd (torrwyd allan yn y drydedd rownd yn 1969 a 1971) "T" = cyfartal Cefndir melyn i'r 10 uchaf.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dai Rees, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.