Rhanbarth daearyddol yng ngogledd Llychlyn sy'n bennaf o fewn Cylch yr Arctig yw'r Lapdir (Sameg gogleddol: Sápmi; Norwyeg a Swedeg: Sameland; Ffinneg: Lappi).
Mae'n ymestyn o Fôr Norwy i'r Môr Gwyn, ar draws gogledd Norwy, gogledd Sweden, gogledd y Ffindir, a Gorynys Kola yn Rwsia, efo Môr Barents i'r gogledd. Mae'n gartref i'r Lapiaid neu'r Sámi.
Math | rhanbarth, ardal ddiwylliannol, ethnic territory |
---|---|
Poblogaeth | 2,000,000 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Norwy, Sweden, y Ffindir, Rwsia |
Arwynebedd | 388,350 km² |
Cyfesurynnau | 67.9°N 18.52°E |
Y Lapdir ydy cwr mwyaf gogleddol tir mawr Ewrop. Gorweddai'n gyffredinol rhwng Cylch yr Arctig a lledred 71° i'r gogledd, a rhwng hydred 15° a 43° i'r dwyrain. Mae gan y rhanbarth arwynebedd o 100,000 km², gan gynnwys bron 8,000 km² o ddŵr, hynny yw y llynnoedd sydd yn niferus yng ngogledd Llychlyn.
Nodweddir tirwedd y Lapdir gan fynyddoedd geirwon, ac ychydig o wastatir sydd yn naill ai coedydd tywyll, diffeithfaoedd caregog, neu wastadoedd corsog, heb braidd ddim ohono yn werth ei drin. Tarddai'r nifer fwyaf o afonydd y Lapdir o fynyddoedd Norwy ac yn llifo i Wlff Bothnia yn y Môr Baltig, rhwng Sweden a'r Ffindir. Ymhlith y coed lluosog yn yr ardal mae ffawydd, bedw, aethwydd, helyg, ac ysgo.
Yr anifeiliaid mwyaf eu maint yn y Lapdir yw carw Llychlyn, yr elc, yr arth frown, a'r blaidd. Ymhlith y mamaliaid eraill mae'r bele, y carlwm, y gewai, y llwynog, a'r afanc. Mae'r adar sydd i'w gweld yn aml yn y Lapdir yn cynnwys y gïach a'r gwyach, ac ymhlith pysgod yr ardal mae'r eog a'r brithyll.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Lapdir, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.