Ecosystem yw cymdeithas o organebau mewn ecoleg sy'n cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreaduriaid byw eraill yn ogystal a'u hamgylchedd.
Fel arfer, maent yn ffurfio cadwyni a gweoedd bwydydd.
Arthur Tansley oedd y gwyddonydd cyntaf a ddefnyddiodd y term ecosystem mewn traethawd ym 1935, ond roedd Roy Clapham yn defnyddio'r un term ym 1930 i ddisgrifo undeb creaduriaid gyda'u hamgylchedd.
Peth deinamig a chymhleth yw ecosystem ac mae egni a defnyddiau'n llifo ynddi. Mae ecosystemau mawr - er enghraifft coedwig gyfan - a bach - er enghraifft pwll. Fel arfer, mae rhwystrau fel anialwch, mynyddoedd neu foroedd rhwng ecosystemau, neu mae ecosystem yn system annibynnol, fel pwll neu afon.
Mewn ecosystem, mae cydbwysedd rhwng y creaduriaid, ond mae'n bosib fod amgylchedd yn newid neu greadur newydd yn dod i'r ecosystem yn dymchwel popeth ac o ganlyniad mae'n bosib fod llawer o greaduriaid neu hyd yn oed rhywogaethau yn marw.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ecosystem, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.