Llawer, gweler y rhestr
Deugotyledonau | |
---|---|
Magnolia | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ffylwm: | Magnoliophyta |
Dosbarth: | Brongniart |
Urddau | |
Planhigion blodeuol â dwy had-ddeilen yw'r deugotyledonau (hefyd dicotyledonau, deuhad-ddail, deugibogion). Maent yn cynnwys tua 200,000 o rywogaethau. Fe'u dosberthir yn y dosbarth Magnoliopsida (neu Dicotyledones) yn draddodiadol, ond mae astudiaethau o'u DNA a'u paill yn dangos bod nhw'n ffurfio sawl grŵp gwahanol; yr ewdicotau yw'r grŵp mwyaf ac maent yn cynnwys y rhan fwyaf o'r deugotyledonau.
Fel arfer, mae gan y deugotyledonau ddail llydan coesog gyda gwythiennau rhwydog ac organau blodeuol wedi'u trefnu mewn lluosrifau o bedwar neu bump.
Mae dosbarthiad y deugotyledonau yn amrywio. Mae'r rhestr isod yn dilyn yr Angiosperm Phylogeny Group. Mae dosbarthiad cywir nifer o deuluoedd yn ansicr.
Urdd | Enghreifftiau |
---|---|
Amborellales | |
Nymphaeales | lili'r dŵr |
Austrobaileyales | coeden anis |
Chloranthales | |
"Magnoliidau" | |
Canellales | |
Laurales | llawryfen |
Magnoliales | magnolia, nytmeg, afal cwstard |
Piperales | pupur du, esgorlys |
Ceratophyllales | cyrnddail |
"Ewdicotau" | |
Ranunculales | blodyn ymenyn, pabi |
Teulu Sabiaceae | |
Proteales | protea, planwydden, lotws |
Trochodendrales | |
Buxales | pren bocs |
"Ewdicotau craidd" | |
Gunnerales | |
Teulu Dilleniaceae | |
Saxifragales | tormaen, eirinen Fair, briweg, rhosyn y mynydd |
Berberidopidsales | |
Santalales | uchelwydd |
Caryophyllales | carnasiwn, cactws, ffigysen yr Hotentot |
"Rosidau" | |
Vitales | gwinwydden |
"Ewrosidau I" | |
Zygophyllales | |
Celastrales | brial y gors |
Oxalidales | suran y coed |
Malpighiales | llaethlys, eurinllys, llin, mangrof, helygen, fioled |
Cucurbitales | cucumer, melon, pwmpen |
Fabales | ffeuen, pysen, meillionen, pysgneuen |
Fagales | ffawydden, derwen, bedwen |
Rosales | rhosyn, afal, llwyfen, danhadlen, cywarch |
"Ewrosidau II" | |
Geraniales | pig yr Aran, mynawyd y bugail |
Myrtales | myrtwydden, llysiau'r milwr, melyn yr hwyr, grawnafal |
Crossosomatales | |
Picramniales | |
Huerteales | |
Brassicales | bresychen, mwstard, rêp |
Malvales | hocysen, pisgwydden, cotwm, cor-rosyn |
Sapindales | oren, lemon, mahogani |
"Asteridau" | |
Cornales | cwyrosyn |
Ericales | grug, rhododendron, ffrwyth ciwi, te, briallen |
"Ewasteridau I" | |
Teulu Boraginaceae | cyfardwf, sgorpionllys |
Teulu Vahliaceae | |
Teulu Icacinaceae | |
Teulu Metteniusaceae | |
Teulu Oncothecaceae | |
Garryales | |
Gentianales | crwynllys, coffi |
Lamiales | mintys, marddanhadlen, lafant, bysedd y cŵn, olewydden |
Solanales | codwarth, tomato, taten, planhigyn ŵy, taglys |
"Ewasteridau II" | |
Aquifoliales | celynnen |
Asterales | blodyn Mihangel, llygad y dydd, letysen, dant y llew |
Escalloniales | esgalonia |
Bruniales | |
Paracryphiales | |
Dipsacales | cribau'r pannwr, gwyddfid |
Apiales | moronen, persli |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Deugotyledon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.