Diod wedi ei wneud o ddail Camellia sinensis a dŵr poeth sydd yn cynnwys caffein yw te.
Te | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Ericales |
Teulu: | Theaceae |
Genws: | Camellia |
Rhywogaeth: | C. sinensis |
Enw deuenwol | |
Camellia sinensis (L.) Kuntze |
Gall hefyd gynnwys llysiau, ffrwythau nei sbeisiau i roi blas iddo. Yng ngwledydd Prydain, caiff ei yfed gyda llefrith/llaeth fel arfer, ac weithiau gyda siwgr, ond mewn mannau eraill mae pobl yn ei yfed heb lefrith/laeth, ac efallai gyda lemwn. Mae'r gwledydd sydd yn cynhyrchu te yn cynnwys Tsieina, India, Pacistan, Sri Lanca (a elwir yn Ceylon ar becynnau te), Taiwan (Formosa), Rwsia, Siapan, Nepal, Awstralia, Yr Ariannin a Cenia.
Mae Glengettie yn de wedi ei wneud i'r farchnad Gymreig, gydag ysgrifen Cymraeg a Saesneg ar ei focsys.
Mae mathau o de hefyd yn bodoli nad ydynt yn cynnwys dail Camellia siniensis, megis te ffrwythau.
I wneud te mae'n rhaid sychu dail Camellia sinensis yn gyflym er mwyn eu rhwystro rhag ocsideiddio. Ffurf o eplesiad yw'r cam nesaf. Ar gyfer te, mae eplesiad yn golygu sychu'r dail ymhellach trwy eu cynhesu nhw. Mae pedwar math o de:
Termau cyffredin ar gyfer te sydd yn cael eu defnyddio ar becynnau yw:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Te, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.