Math o garbohydrad yw siwgr neu siwgwr, defnyddir mewn bwyd ar ffurf grisialau, sef swcros.
Y siwgr sydd i'w gael mewn celloedd planhigion neu anifeiliaid yw glwcos.
Mewn biocemeg, mae siwgr yn foleciwl carbohydrad syml, sef monosaccharid a disaccharid. Mae siwgr yn cynnwys y grŵp aldehyd (-CHO) neu grŵp keton (C=O) gan fondiau dwbl carbon-ocsigen a mae'r siwgr mwyaf cyffredin yn (CH2O)n gan yr n yn rhwybeth rhwng 3 a 7. Beth bynnag, mae deoxyribos yn eithriad am fod ef yn siwgr heb ocsigen.
Rhennir siwgr ar ôl ei cynnwys carbon hefyd, ac er enghraifft mae siwgr trios (C3H6O3) a siwgr pentos. Mae siwgr pentos yn cynnwys ribos a deocsiribos sydd mewn asid niwcleig (DNA). Mae siwgr hecsos yn cynnwys glwcos (ATP) sydd yn bwysig i gynhyrchu ynny. Mae planhigion yn cynhyrchu glwcos (C6H12O6) yn ystod ffotosynthesis ac yn ei droi hi i starts i'w storio.
Cynhyrchir siwgr o wialenni siwgr, betys siwgr neu palmwydd siwgr. Gwledydd sydd yn cynhyrchu siwgr yw'n cynnwys Awstralia, Brasil a Gwlad Tai, ond mae'r cynhyrchwyr bennaf yn wledydd America Ladin, y Môr Caribî a'r Dwyrain Pell.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Siwgr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.