Perlysieuyn blodeuol, defnyddiol iawn yn y gegin yw'r Persli neu'r Perllys (Lladin: Petroselinum crispum; Saesneg: Parsley) ac fe'i tyfir mewn gerddi i roi blas ar fwyd.
Persli | |
---|---|
Llun botanegol o'r planhigyn Persli | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Apiales |
Teulu: | Apiaceae |
Genws: | Petroselinum |
Rhywogaeth: | P. crispum |
Enw deuenwol | |
Petroselinum crispum (Mill.) Fuss |
Ond mae iddo ei beryglon hefyd. Mae ei flas yn eitha tebyg i flas llysiau'r bara (Sa: coriander), ond nad yw cweit mor gryf.
Ceir dau fath cyffredin: y ddeilen gyrliog a drafodir yn yr erthygl hon a'r ddeilen llyfn, fflat (Lladin: Petroselinum neapolitanum) sydd â blas cryfach oherwydd fod mwy o'r olew apiol ynddo. Ond tyfu'r math cyrliog mae llawer o arddwyr, gan ei fod yn fwy annhebyg i'r cegid (Sa: hemlock).
Math arall sy'n gyffredin drwy Ewrop ac UDA yw'r 'Perllys gwreiddiog' sy'n cael ei dyfu'n unswydd am ei wreiddyn - sy'n edrych yn debyg iawn i panas.
(Saesneg: Companion plant). Mae'r perllys yn cael ei blannu'n aml, nid er mwyn ei fwyta, ond oherwydd ei fod yn atynnu gwenyn i'r ardd. Mae e felly'n cynorthwyo planhigion eraill. Er enghraifft, mae'n cael ei blannu ger planhigion tomato er mwyn dennu'r wenynen feirch, er mwyn iddi hithau ladd 'siani fachog y tomato' (Sa: tomato hornworms) sy'n gloddesta ar neithdar y planhigyn perllys. Yn ai, mae'r perllys yn creu arogl cryf iawn sy'n cuddio arogl y planhigyn tomato, ac felly mae hwnnw'n cael llonydd.
Dywedir fod y gwreiddiau'n cynnwys mwy o ddaioni na'r dail. Mae'r persli'n llawn o Fitamin C, Fitamin A a mwynau gwerthfawr sy'n lleddfu problemau yn yr arennau a'r bledren. Gellir gwasgu'r dail a'r gwreiddiau er mwyn defnyddio'r olew i ladd llau pen.
Gofal: dylai merched beichiog beidio bwyta perllys rhag iddynt gael problemau gyda'r arennau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Persli, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.