Llysieuyn o deulu'r foronen yw panasen (Lladin: Pastinaca sativa) lluosog Pannas.
Panasen | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Apiales |
Teulu: | Apiaceae |
Genws: | Patinaca |
Rhywogaeth: | P sativa |
Enw deuenwol | |
Pastinaca sativa L. |
Yng Nghymru, ceir cofnod ohoni'n dyddio yn ôl i gyfnod y Rhufeiniad. Yn ôl y gwyddonwyr mae hi'n perthyn hefyd i deulu'r helogen (neu seleri), persli a ffenel. Caiff ei thyfu er mwyn ei gwreiddiau gwyn, hir, sy'n fwytadwy.
Cyn dyfodiad y fetysen siwgr defnyddiwyd hi i wneud siwgr ac mae rhai'n honni bod gwin panasen yn debyg i Madeira. Fe'u bwyteir gan amlaf wedi'i rhostio, neu fel greision tenau, neu'n stwns. Mae'r dail yn cynnwys cemegyn ffotosensitif. Yn aml iawn drysir pobl o ddwyrain Ewrop lle bwyteir gwreiddyn persli, sy'n debyg iawn o ran ei golwg, ond nid o ran ei blas. Bwydir pannas i anifeiliad yn yr Eidal, Ffrainc a gwledydd eraill. Yr enw llydaweg arni yw Panazenn, (Llydaweg Canol) panesenn; lluosog Panez.
Benthyciad o'r Ffrangeg "panais" yw "pannas". Enwau eraill arni yw Llysiau Gwyddelig neu Foron gwynion. Cofnodir y gair "Pannas" am y tro cyntaf yn Gymraeg yn 1672 (TW Penniarth 228) yng Ngeiriadur Syr Thomas Wiliems. Yn ne-ddwyrain Morgannwg defnyddiwyd y gair "Pannws" (T. Jones; Alm 51; 1704). Defnyddid y gair, tan yn ddiweddar, hefyd i olygu 'cweir' neu 'gurfa'.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Panasen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.