Cotwm

Deunydd amddiffynnol sy'n tyfu o gwmpas hadau y planhigyn cotwm (Gossypium) yw Cotwm.

Fe'i defnyddir i wneud edafedd a brethyn. Daw'r gair "cotwm" o'r Arabeg (al) qutn قُطْن. Hadlestr ydyw, a gwnaed ei ffibrau allan o Seliwlos yn bennaf. Mae Diwrnod Cotwm y Byd yn cael ei ddathlu ar 7 Hydref; cychwynnwyd y diwrnod hwn yn 2019.

Cotwm
Cotwm
Mathffibr planhigyn Edit this on Wikidata
CynnyrchGossypium barbadense, Gossypium hirsutum Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cotwm yw’r ffibr naturiol mwyaf cyffredin a ddefnyddir i wneud ffabrig ar draws y byd. Cynhyrchwyr cotwm mwyaf y byd yn 2007 oedd (1) Tsieina, (2) India, (3) yr Unol Daleithiau, (4) Pacistan, (5) Brasil, (6) Wsbecistan, (7) Twrci, (8) Gwlad Groeg, (9) Tyrcmenistan, a (10) Syria. Yr allforwyr cotwm mwyaf oedd (1) yr Unol Daleithiau, (2) Wsbecistan, (3) India, (4) Brasil, a (5) Bwrcina Ffaso. Mae'r amrywiaeth fwyaf o rywogaethau cotwm gwyllt i'w cael ym Mecsico, ac yna Awstralia ac Affrica.

Cotwm
Cotwm yn barod i'w gynaeafu

Cynhyrchir y rhan fwyaf o gotwm India yn Maharashtra (26.63 %), Gujarat (17.96 %) ac Andhra Pradesh (13.75 %). Texas sy'n cynhyrchu'r gyfrahn uchaf o gotwm yr Unol Daleithiau.

Mae'r amcangyfrifon cyfredol ar gyfer cynhyrch global tua 25 miliwn tunnell neu 110 miliwn o fyrnau bob blwyddyn, sef 2.5% o dir âr y byd. India yw cynhyrchydd cotwm mwya'r byd, ond yr Unol Daleithiau fu'r allforiwr mwyaf am flynyddoedd.

Hanes

Mae'r ffibr fel arfer yn cael ei nyddu'n edafedd neu edau a'i ddefnyddio i wneud tecstilau meddal, anadladwy, amsugnol, cryf a golchadwy. Gwyddys bod y defnydd o gotwm ar gyfer ffabrig yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol; darganfuwyd darnau o ffabrig cotwm o'r bumed mileniwm CC yng Ngwareiddiad Dyffryn Indus, yn ogystal â gweddillion ffabrig sy'n dyddio'n ôl i 6000 CC ym Mheriw.

Tarddiad y gair

Aeth y gair i mewn i'r ieithoedd Romáwns yng nghanol y 12g, a'r Saesneg ganrif yn ddiweddarach. Ychydyg wedyn, yn y 15g, llithrodd i fewn i'r Gymraeg; ceir y defnydd cyntaf o'r gair gan Guto'r Glyn: Guto gwnaed ffaling gotwm.

Mathau o ffabrig cotwm

Mae llawer o ffabrigau'n cael eu gwneud yn gyfan gwbl o gotwm ond mae ffabrigau eraill yn cael eu gwneud o gymysgedd o gotwm a ffibrau megis polyester.

  • Cambrig: dyma un o’r mathau mwyaf trwchus o liain, a ddefnyddiwyd yn hanesyddol i wneud crysau gwaith, gobenyddion a chlustogau.
  • Denim: ffabrig cotwm cryf sy’n cael ei wehyddu gydag effaith rib groeslinol. Fe’i defnyddir ar gyfer jîns, siacedi ac ati.
  • Melfaréd: un o'i nodweddion amlycaf yw'r cordiau paralel. Fe’i defnyddir ar gyfer trowsus, siacedi, ac ati.
  • Gwlanen: ffabrig gwead plaen gyda cheden ar un neu ddwy ochr. Fe’i defnyddir ar gyfer trowsus fel arfer.
  • Mwslin: ffabrig plaen tryloyw wedi’i wehyddu a ddefnyddir i addurno ffenestri a dillad menywod, ee sgarffiau.
  • Ffabrig Eifftaidd: cotwm meddal ac amsugnol o ansawdd da iawn, a ddefnyddir ar gyfer tywelion a dillad gwely.
  • Fflaneléd: ffabrig meddal a ddefnyddir hefyd ar gyfer dillad nos a dillad gwely.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Cotwm HanesCotwm Tarddiad y gairCotwm Mathau o ffabrig cotwmCotwm Gweler hefydCotwm CyfeiriadauCotwm7 HydrefArabegGossypiumSeliwlos

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Adnabyddwr gwrthrychau digidolPedrogMoliannwnAudi R8PannoniaAbaty TyndyrnCaeredinDu FuDulynIestyn ap GwrgantCyfarwyddwr ffilmY Lan Orllewinol818CristnogaethBertie Louis CoombesO.E. RobertsTelford a WrekinEnfysSiot dwad1937Homo Sapiens, Les Nouvelles Origines31 MawrthGwefanHimalayaSantIaithSaesonCymraeg CanolSefydliad WicimediaGroeg yr HenfydWest Manchester Township, Pennsylvania25 RhagfyrMarchnataRhestr o seintiau CymruThe Poughkeepsie TapesCenhinen BedrYma o Hyd (cân)SefforaIesuEkaterinburgMax von SydowCrynoddisgLlythyr Cyntaf Paul at TimotheusPalesteinaY Brenin ArthurY DdaearMET-ArtSenedd y Deyrnas UnedigRobert GuéïDriggGarda SíochánaBrychdynAlexei NavalnyCwrcwdMari'r Fantell WenRobert EverettGina GersonSantes ArianwenSwydd AmwythigBarcud cochRhestr Papurau Bro7fed ganrifIwerddon IfancTacsiMaloHeloísa Pinheiro896🡆 More