Coed neu lwyni deugotyledon sydd fel rheol yn tyfu gerllaw dŵr hallt yn y trofannau yw Mangrof.
Maent yn tyfu ar fwd neu dywod a orchuddir yn rheolaidd gan y llanw, ac sydd felly yn rhy hallt i'r rhan fwyaf o blanhigion. Maent yn gyffredin mewn aberoedd ac ar hyd yr arfordir.
Ceir 54 rhywogaeth o "wir fangrof" mewn 16 teulu. Mae'r gwreiddiau yn dal y mwd neu dywod yn ei le, ac yn atal erydu. Yn y teuluoedd Rhizophoraceae ac Araceae, mae'r hadau yn egino yn y ffrwyth, ac mewn rhai rhywogaethau mae'r planhigyn ieuanc yn tyfu gwreiddyn ar ffurf picell, sy'n ymwthio o'r mwd pan mae'r planhigyn yn syrthio o'r rhiant.
Defnyddir y pren fel tanwydd neu i gynhyrchu siarcol. Collwyd llawer o goedwigoedd mangrof mewn rhai gwledydd, gyda'r canlyniad fod llai o amddiffyniad i'r arfordir. Wedi Tsunami Cefnfor India 2004, nodwyd fod y difrod yn llawer llai yn yr ardaloedd lle'r oedd y coedwigoedd mangrof wedi eu cadw.
Y Sundarbans, ar arfordir Bangladesh a Gorllewin Bengal yn India yw coedwig fangrof fwyaf y byd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mangrof, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.