Anialwch yn neheudir Affrica yw'r Kalahari, yn ymestyn tros 900,000 km² (362,500 mi²), ar draws rhan helaeth o Botswana a rhannau o Namibia a De Affrica.
Er ei fod yn anialwch, mae tyfiant sylweddol yno yn dilyn glawogydd.
Math | anialwch, Deserts and xeric shrublands |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Kgalagadi Transfrontier Park |
Gwlad | Botswana, Namibia, Angola |
Arwynebedd | 930,000 km² |
Uwch y môr | 1,168 metr |
Gerllaw | Afon Oren |
Cyfesurynnau | 23°S 22°E |
Hyd | 4,000 cilometr |
Y Kalahari yw anialwch mwyaf deheuol Affrica. Mewn rhai rhannau, ceir hyd at 250 mm o law y flwyddyn, ac ni ellir ystyried y rhannau hyn yn wir anialwch. Fodd bynnag, mae'n wir anialwch yn y de-orllewin, lle mae llai na 175 mm o law y flwyddyn. Yn yr haf; ceir tymheredd rhwng 20 a 45 °C. yma.
Poblogaeth frodorol y Kalahari yw'r San, oedd yn draddodiadol yn byw bywyd hela a chasglu. Ceir hefyd rhywfaint o Tswana, Kgalagadi, Herero, ac Ewropeaid.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Kalahari, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.