Angola

Gwlad yng Nghanolbarth Affrica yw Gweriniaeth Angola neu Angola (ym Mhortiwgaleg: República de Angola).

Mae hi ar arfordir Cefnfor yr Iwerydd a gwledydd cyfagos yw Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo i'r gogledd, Sambia i'r dwyrain, a Namibia i'r de. Mae hi'n annibynnol ers 1975. Prifddinas Angola yw Luanda.

Angola
Angola
Angola
ArwyddairVirtus Unita Fortior Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Lb-Angola.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Angola.wav, LL-Q9610 (ben)-Tahmid-অ্যাঙ্গোলা.wav, LL-Q22809485 (apc)-Hassan Hassoon-أنغولا.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasLuanda Edit this on Wikidata
Poblogaeth32,866,270 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 25 Awst 1992 Edit this on Wikidata
AnthemAngola Avante Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJoão Lourenço Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, Africa/Luanda Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Portiwgaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCanol Affrica Edit this on Wikidata
Gwlad[[Delwedd:Nodyn:Alias baner gwlad Angolag|22x20px|Baner Nodyn:Alias gwlad Angolag]] [[Nodyn:Alias gwlad Angolag]]
Arwynebedd1,246,700 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNamibia, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Sambia, Gweriniaeth y Congo, Gabon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau12.35°S 17.35°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholNational Assembly Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Angola Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethJoão Lourenço Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Angola Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJoão Lourenço Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$65,685 million, $106,714 million Edit this on Wikidata
ArianKwanza Edit this on Wikidata
Canran y diwaith7 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant6.08 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.586 Edit this on Wikidata

Daearyddiaeth

Mae Angola yn wlad yn ne-orllewin Canolbarth Affrica ar arfordir Cefnfor Iwerydd. Mae'r rhan fwyaf o'i thiriogaeth yn gorwedd i'r de o Afon Congo ac eithrio Llain Cabinda a wahanir o weddill y wlad gan ddarn o Weriniaeth Ddemocrataidd Congo.

Hanes

Cyrhaeddodd y Portiwgaliaid Angola ar ddiwedd y 15g. Yn raddol cawsai'r wlad ei meddiannu ganddynt a'i throi'n drefedigaeth Bortiwgalaidd. Arosodd dan reolaeth Portiwgal hyd 1975 (ac eithrio cyfnod byr ym meddiant yr Iseldiroedd o 1641 hyd 1648).

Yn 1951 cafodd ei gwneud yn Dalaith Dramor ac felly'n rhan integreiddiedig o Bortiwgal. Yn ystod y 1950au a'r 1960au tyfodd cenedlaetholdeb Angolaidd a ffurfiwyd tri mudiad annibyniaeth: yr MPLA (Mudiad Poblogaidd dros Ryddid i Angola), yr FNLA (Ffrynt Cenedlaethol dros Ryddid i Angola) ac UNITA (Undeb Cenedlaethol dros Ryddid Llwyr i Angola).

Angola 
Map o Angola

Yn 1974 cytunodd Portiwgal mewn egwyddor i roi annibyniaeth i'r wlad, ond yn wyneb anghydfod rhwng y tri mudiad annibyniaeth a gwrthwynebiad yr ymsefydlwyr Portiwgalaidd torrodd rhyfel cartref allan rhwng y carfanau hynny. Meddianwyd gwahanol rannau o'r wlad gan bob un o'r carfanau arfog. Pan grantiwyd annibyniaeth y canlyniad oedd i'r MPLA gyhoeddi ei llywodraeth ei hun yn Luanda dan yr enw Gweriniaeth Pobl Angola ac i'r FNLA a'i cynghreiriaid UNITA gyhoeddi Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Angola â'i phrifddinas yn Huambo. I gymhlethu'r darlun, roedd yr MPLA yn cael ei cefnogi gan yr Undeb Sofietaidd a Ciwba tra roedd yr FNLA yn cael cefnogaeth yr Unol Daleithiau a rhai gwledydd Ewropeaidd. Cafodd UNITA gryn gefnogaeth gan lywodraeth apartheid De Affrica. Am gyfnod anfonodd Ciwba filwyr i helpu'r MPLA ac aeth Che Guevara ei hun yno i helpu'r llywodraeth newydd. Enillodd y MPLA yn y diwedd ond cafodd y rhwygau a achoswyd gan y rhyfel effaith hir-dymor ar fywyd gwleidyddol ac economaidd y wlad.

Iaith a diwylliant

Bantu o ran eu tras yw mwyafrif y bobl. Ceir hefyd bobl o dras gymysg a nifer bach o bobl o dras Portiwgalaidd ac Ewropeaidd. Portiwgaleg yw'r iaith swyddogol. Mae mwyafrif y boblogaeth yn Gristnogion Catholig.

Economi

Mae Angola'n mwynhau cyfoeth o adnoddau mwynol, yn cynnwys olew, haearn a deiamwntau. Mae tyfu coffi ar gyfer y farchnad dramor yn elfen bwysig yn economi'r wlad yn ogystal.

Unedau gweinyddol

Angola 
Map o Angola gyda'r taleithiau wedi'u rifo

Rhennir Angola yn ddeunaw talaith (províncias) a 158 ardaloedd dinesig (municípios). Y taleithiau yw:

1 Bengo
2 Benguela
3 Bié
4 Cabinda
5 Cuando Cubango
6 Cuanza Norte
7 Cuanza Sul
8 Cunene
9 Huambo
10 Huila
11 Luanda
12 Lunda Norte
13 Lunda Sul
14 Malanje
15 Moxico
16 Namibe
17 Uige
18 Zaire

Chwiliwch am Angola
yn Wiciadur.

Tags:

Angola DaearyddiaethAngola HanesAngola Iaith a diwylliantAngola EconomiAngola Unedau gweinyddolAngolaCanolbarth AffricaCefnfor yr IweryddGweriniaeth Ddemocrataidd CongoLuandaNamibiaPortiwgalegSambia

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

College Station, TexasSaint-John PerseBrasilCedorWashington, D.C.Dic JonesGwinProffwydoliaeth Sibli DdoethCynnwys rhyddRhestr adar CymruFietnamJón GnarrPasgTîm Pêl-droed Cenedlaethol yr IseldiroeddPoslední Propadne PekluViv ThomasAlldafliad29 IonawrHanna Katan2021Her & HimSpice GirlsBitməyən ömürRhestr gwledydd yn nhrefn eu harwynebeddOwsleburySefydliad WicifryngauWilliam John Gruffydd (Elerydd)Talaith NovaraCymunCodiadLea County, Mecsico Newydd365 DyddLyn EbenezerMorfydd E. OwenGwrthglerigiaethHugo ChávezAnilingusStyx (lloeren)Duel On The Mississippi195535 DiwrnodThe Salton Sea30 MehefinY PhilipinauGeronima Cruz MontoyaRhyfel Annibyniaeth AmericaAnna SewardTîm Pêl-droed Cenedlaethol yr AlmaenMecsicoDinas LlundainUnol Daleithiau AmericaBrexitEthan AmpaduBoduan2015Elizabeth TaylorUnited NationsRwsiaEidalegDerbynnydd ar y top24 MawrthRhyfel Gaza (2023‒24)Wilhelm DiltheyFfiseg gronynnauTudur Dylan JonesHentaiCalendr GregoriYr AlbanCasachstanPictiaid🡆 More