Glöwr John Evans

Glöwr o ardal Coedpoeth, Wrecsam oedd John Evans (tua 1792 - 27 Ebrill 1865) a ddihangodd o drychineb wedi deuddeg diwrnod wedi'i gaethiwo o dan y ddaear.

John Evans
Ganwyd1792 Edit this on Wikidata
Bu farw27 Ebrill 1865 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmwynwr Edit this on Wikidata
Chwarel Pentre Fron, Coedpoeth
Glöwr John Evans
Chwarel Pentre Fron, Coedpoeth
Lleoliad y drychineb

Digwyddodd y ddamwain ar 27 Medi 1819 ym Mhwll Glo Pentre Fron yng Nghoedpoeth. Roedd pwll glo arall yn ffinio gyda Phentre Farm, rhannau ohono yn llawn dŵr. Ymddengys fod llawer o'r glöwyr yn bur bryderus ynglŷn â hyn a'u bod wedi rhybuddio'r stiwardiaid ynglŷn â'r peryglon fwy nag unwaith, ond i ddim pwrpas.

Ar fore'r 27ain aeth 19 o löwyr i lawr y pwll fel arfer. Dihangodd 12 ohonynt yn syth pan ddaeth dŵr i'r pwll, ac achubwyd 4 arall a oedd yn nes at lygad y pwll. Roedd Edward Salisbury, John Taylor a John Evans yn dal ar goll. Pwmpiwyd dŵr o'r pwll am wythnos ac ar yr wythfed diwrnod, aeth glöwyr i lawr y pwll, lle canfuwyd cyrff Taylor a Salisbury. Paratowyd eirch ac amdoeau ar gyfer y tri, a thorrwyd eu henwau ar eu heirch. Ar ddiwedd y deuddegfed diwrnod clywyd llais John Evans. Cliriwyd llwybr tuag ato a daeth o'n ôl i'r wyneb. Roedd wedi treulio deuddeg diwrnod heb olau neu fwyd ar wahân i ddŵr a o oedd yn dripian o'r to a chanhwyllau. Daeth â'r arch adref, lle defnyddiwyd ef fel cwpwrdd.

Bu farw ar 27 Ebrill 1865 a chladdwyd ef ym mynwent Capel yr Adwy, yng Nghoedpoeth.

Cyfeiriadau

  • Y Cymro, 25 Medi 1979
  • Gwefan MinerAncestry (Saesneg)

Dolenni allanol

Tags:

1792186527 EbrillCoedpoethGloWrecsam

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Murder at 1600Tom Petty and the HeartbreakersRhyw tra'n sefyllBuckminster FullerSex TapeTsiecia3 EbrillWyn LodwickThe LumineersCyfogMelodramaIndonesiaEstonegGweddi'r ArglwyddAnonymous (cymuned)Y rhyngrwydSimhada Mari SainyaGweithgynhyrchuThorstein VeblenBilidowcar (rhaglen deledu)Plaid CymruEl Paso County, TexasLlain GazaRoced y DwyrainGruffydd WynTomatoRhyw rhefroltrênCalendr GregoriJak JonesFamily GuyFloridaCeiriosenY Deyrnas UnedigHTTPCyfathrach rywiolMelanoidinWalkabout22 EbrillDwodenwmBasbousa8gtwristiaethBudapestOpiwmSoar y MynyddBakuCetonGwladwriaethParalelogramCadwyn fwydAnswers to NothingOsama bin LadenAngela 2SherpaEdward HeathTîm pêl-droed cenedlaethol MorocoRheilffordd Dwyrain Swydd GaerhirfrynSeiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1908SlofaciaAnthemWinslow Township, New JerseyCroatiaThe JammedQatarJosei mangaCarl ReinerBwrdd yr Iaith GymraegNguyen Van Hung🡆 More