Ieithydd, academydd ac awdur yw'r Athro David Crystal, OBE (ganwyd 6 Gorffennaf 1941).
David Crystal | |
---|---|
Ganwyd | 6 Gorffennaf 1941 Lisburn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ieithydd, ysgrifennwr, sociolinguist |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | OBE, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Fellow of the Chartered Institute of Linguists, Honorary Fellow of Wolfson College |
Gwefan | http://www.davidcrystal.com |
Ganwyd Crystal yn Lisburn, Gogledd Iwerddon. Fe'i magwyd yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg yng Nghaergybi ac yna Lerpwl lle mynychodd Goleg y Santes Fair o 1951. Astudiodd Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain rhwng 1959 a 1962.
Roedd yn ymchwilydd o dan Randolph Quirk rhwng 1962 a 1963, yn gweithio ar Arolwg o Ddefnydd y Saesneg. Ers hynny mae wedi darlithio yn Ngholeg y Brifysgol, Bangor ac rhwng 1965 a 1985 bu'n Athro Gwyddor Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Reading. Mae'n Athro Ieithyddiaeth er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.
Ers ymddeol o waith academaidd llawn amser, bu'n gweithio fel awdur, golygydd ac ymgynghorydd ac mae'n cyfrannu i ddarllediadau radio a theledu. Mae ei gysylltiad gyda'r BBC yn amrywio o gyflwyno cyfres am faterion ieithyddol ar BBC Radio 4, i bodlediadau ar wefan y Gwasanaeth y Byd BBC ar gyfer pobl sy'n dysgu Saesneg.
Yn 1995 derbynnodd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i'r iaith Saesneg. Mae'n awdur dros 60 o lyfrau ar yr iaith Saesneg ac ieithyddiaeth, mae hefyd wedi golygu a chyfrannu at nifer o gyfeirlyfrau. Mae ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae'n byw yng Nghaergybi gyda'i wraig, sy'n gyn-therapydd lleferydd a nawr yn awdur plant. Mae ganddo pedwar o blant. Mae ei fab Ben Crystal hefyd yn awdur a wedi cyd-ysgrifennu tri llyfr gyda'i dad.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article David Crystal, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.