Ffilm gomedi anemeiddiedig Americanaidd yw Kung Fu Panda (2008).
Cafodd ei chyfarwyddo gan John Wayne Stevenson a Mark Osborne a'i chynhyrchu gan Melissa Cobb. Cynhyrchwyd y ffilm yn Stiwdios Animeddio DreamWorks yn Glendale, Califfornia a'i dosbarthu gan Paramount Pictures. Rhyddhawyd y ffilm mewn sinemau ar 6 Mehefin 2008. Mae'r ffilm yn serennu lleisiau Jack Black fel y panda, Po, ynghyd â lleisiau Dustin Hoffman, Jackie Chan, Angelina Jolie, Ian McShane, Seth Rogen, Lucy Liu, David Cross, Randall Duk Kim, James Hong, Dan Fogler, ac Michael Clarke Duncan. Lleolir y ffilm yn hen Cheina a dilyna'r ffilm hynt a helynt panda lletchwith sy'n breuddwydio am fod yn feistr kung fu. Pan mae ymladdwr brawychus yn dianc o'r carchar, daw Po yn Frwydrwr y Ddraig. Mae Dreamworks yn gweithio ar ffilm ddilynol i Kung Fu Panda sydd ar hyn o bryd yn y cyfnod ôl-gynhyrchu.
Poster y ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | John Wayne Stevenson Mark Osborne |
Cynhyrchydd | Melissa Cobb |
Ysgrifennwr | Jonathan Aibel Glenn Berger Stori: Ethan Reiff Cyrus Voris |
Serennu | Jack Black Dustin Hoffman Angelina Jolie Ian McShane Jackie Chan Seth Rogen Lucy Liu David Cross Randall Duk Kim James Hong Dan Fogler Michael Clarke Duncan |
Cerddoriaeth | Hans Zimmer John Powell |
Sinematograffeg | Yong Duk Jhun |
Golygydd | Clare de Chenu |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | DreamWorks Animation Pacific Data Images |
Dosbarthydd | Paramount Pictures |
Dyddiad rhyddhau | Gogledd America: 6 Mehefin, 2008 Awstralia: 26 Mehefin, 2008: Y Deyrnas Unedig: 4 Gorffennaf, 2008 |
Amser rhedeg | 91 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | Saesneg |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Er fod y syniad o "kung fu panda" wedi bodoli ers 1993 o leiaf, ni ddechreuwyd gweithio ar y prosiect tan 2004. Un o gyfarwyddwyr DreamWorks Animation, Michael Lachance, gafodd y syniad am y ffilm. Yn wreiddiol, bwriadwyd creu ffilm barodi ond penderfynodd y cyfarwyddwr Stevenson i greu ffilm a oedd yn efelychu ffilmiau cyffro Hong Kong, sydd yn plethu siwrnai'r prif gymeriad. Roedd yr animeiddio cyfrifiadurol yn fwy cymhleth nag unrhyw beth roedd DreamWorks wedi gwneud yn flaenorol. Fel yn achos nifer o ffilmiau animeiddiedig DreamWorks, ysgrifennwyd y sgôr gan Hans Zimmer (a gyd-weithiodd gyda John Powell). Ymwelodd â Cheina er mwyn ymgyfarwyddo â'r diwylliant ac i gwrdd â Cherddorfa Cenedlaethol Cheina.
Cymeriad | Actor lleisiol | Anifail |
---|---|---|
Po | Jack Black | Panda Mawr |
Master Shifu | Dustin Hoffman | Panda Coch |
Tai Lung | Ian McShane | Llewpart yr Eira |
Master Tigress | Angelina Jolie | Teigr De Tsieina |
Master Viper | Lucy Liu | Gwiber Werdd y Coed |
Master Mantis | Seth Rogen | Mantis Tsieina |
Master Monkey | Jackie Chan | Langwr Euraid |
Master Crane | David Cross | Garan Corun-goch |
Master Oogway | Randall Duk Kim | Crwban y Galápagos |
Mr. Ping | James Hong | Gŵydd |
Zeng | Dan Fogler | Gŵydd |
Commander Vachir | Michael Clarke Duncan | Rhinoseros Jafa |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Kung Fu Panda, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.