Germania oedd yr enw a ddefnyddiai'r Rhufeinwyr am y diriogaeth oedd yn ymestyn i'r dwyrain o lan orllewinol Afon Rhein.
Roedd y ffin yn y dwyrain yn aneglur, yn ymestyn tua Rwsia heddiw.
Roedd llawer o lwythau yn Germania, llwythau Almaenaidd yn bennaf ond hefyd rhai Celtaidd, yn ogystal â Scythiaid a phobloedd Slafig. Disgrifiwyd Germania gan yr hanesydd Rhufeinig Tacitus yn ei lyfr Germania.
Ystyriai'r Rhufeiniaid fod Germania yn ddwy ran, 'Germania Fewnol', i'r gorllewin a'r de o Afon Rhein a Magna Germania (Germania Fawr) i'r dwyrain o Afon Rhein. Concrwyd Germania Fewnol gan y Rhufeiniaid, ac fe'i rhanwyd yn ddwy dalaith, Germania Inferior a Germania Superior. Llwyddodd y cadfridog Rhufeinig Drusus i goncro rhan helaeth o Germania Magna hefyd, ond ni fedrodd yr ymerodraeth ddal gafael ar y tiroedd hyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Germania, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.