John Hartson

Cyn-chwaraewr pêl-droed proffesiynol yw John Hartson (ganed 5 Ebrill 1975 yn Abertawe, Cymru), ymddeolodd o'r gêm wedi iddo gael ei ryddhau gan West Bromich Albion yn Ionawr 2008.

Yn Gymro Cymraeg cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Lonlas, Abertawe ac yna Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe. Daeth tadcu John ar ochr ei dad i Abertawe o Newfoundland, Canada adeg yr Ail Ryfel Byd. Priododd y tadcu Peter Hartson, Annie Frost, merch o Port Tennant, Abertawe. Cawsant dri mab, Peter, Keith a thad John sef Cyril. Un o Gwmtawe yw ei fam Diana, unig blentyn John Jenkins a Lena Lewis.

John Hartson
John Hartson
Hartson ym maes hyfforddi West Bromwich Albion
Manylion Personol
Enw llawn John Hartson
Dyddiad geni (1975-04-05) 5 Ebrill 1975 (49 oed)
Man geni Abertawe, Baner Cymru Cymru
Taldra 1m 85
Safle Saethwr
Clybiau Iau
Marlborough Rovers
Clybiau
Blwyddyn
Clwb
Ymdd.*
(Goliau)
1992-1995
1995-1997
1997-1999
1999-2001
2001
2001-2006
2006-2008
2007
Luton Town
Arsenal
West Ham United
Wimbledon
Coventry City
Celtic
West Bromwich Albion
Norwich City (benthyg)
Cyfanswm
54 (11)
53 (14)
60 (24)
49 (19)
12 (6)
146 (88)
21 (5)
4 (0)
399 (167)
Tîm Cenedlaethol

1995-2005
Cymru dan-21
Cymru

50 (14)

1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn
a gyfrodd tuag at y gyngrhair cartref yn unig
.
* Ymddangosiadau

John Hartson
Stori Sydyn: Hartson; cyhoeddwyd gan Y Lolfa; 2011

Gyrfa pêl-droed

Dechreuodd ei yrfa ym 1992 fel chwaraewr o dan hyfforddiant i Luton Town cyn iddo ymuno ag Arsenal yn Ionawr 1995 am £2.5 miliwn. Roedd Cyril Beech un o sgowtaid Luton, wedi bod yn cadw llygad arno ers pan oedd naw oed. Ef (ynghyd â Chris Kiwomya) oedd un o'r rhai olaf i gael eu prynu gan George Graham cyn i hwnnw gael ei ddiswyddo yn Chwefror 1995. Chwaraeodd i Arsenal am y tro cyntaf ar Ionawr y 4ydd, 1995 gan chwarae'n rheolaidd yn ystod ei dymor cyntaf. Uchafbwynt y tymor iddo oedd sgorio gôl i Arsenal yn erbyn Real Zaragoza yn Rownd Derfynol Cwpan Enillwyr Cwpan UEFA gan wneud y sgôr yn gyfartal. Fodd bynnag, sgoriodd Nayim gôl funud olaf o ddeugain llath a chollodd Arsenal y gêm o 2 - 1.

Pan ymunodd Dennis Bergkamp â'r tîm, aeth Hartson yn llai blaenllaw o dan arweiniad olynyddion Graham sef Bruce Rioch ac Arsène Wenger. Gyda Wenger yn awyddus i arwyddo Nicolas Anelka i'w dîm ar ddechrau 1997, gwnaeth yn glir i Hartson nad oedd ei angen arno bellach ac yn Chwefror 1997, cafodd Hartson ei werthu i West Ham United am £3.2 miliwn. Bryd hynny, Hartson oedd y chwaraewr drutaf erioed i West Ham ei arwyddo.

Chwaraeodd 70 gêm dros Arsenal i gyd (15 fel eilydd), gan sgorio 17 gôl.

Tra'n chwarae i West Ham, sgoriodd Hartson 33 gôl mewn 73 ymddangosiad cynghrair a chwpan. Bu digwyddiad ar y maes ymarfer pan oedd Hartson yn chwarae i West Ham ym 1998, pan giciodd Hartson ei gyd-chwaraewr Eyal Berkovic yn ei ben o flaen y camerâu teledu. Ni ddaethpwyd ag unrhyw gyhuddiadau yn ei erbyn, ac yn ei gofiant cyfaddefa Hartson fod hyn yn weithred annoeth.

Yna symudodd ymlaen i gyfnod yn Wimbledon. Bu bron i Hartson arwyddo gyda Rangers, methodd brawf meddygol ac yn hytrach ymunodd â Coventry City mewn cytundeb talu-wrth-chwarae. Yn Awst 2001 ymunodd â Celtic mewn trosglwyddiad gwerth £6m. Chwaraeodd i'r clwb yng Uwchgynghrair yr Alban am bum tymor. Ym Mawrth 2004, peidiodd a chwarae am weddill y tymor er mwyn cael llawdriniaeth ar ei gefn; fodd bynnag, gwellodd mewn digon o amser ar gyfer ymgyrch aflwyddiannus Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2006.

Yn Ebrill 2005, rhannodd y wobr Chwaraewr y Flwyddyn PFA yr Alban gyda Fernando Ricksen ac ychydig amser yn ddiweddarach ym Mai cafodd ei ethol yn Chwaraewr y Flwyddyn gan Gymdeithas Ysgrifenwyr Pêl-droed yr Alban.

Ar 5 Ebrill 2006, sgoriodd Hartson y gôl fuddugol yn erbyn Hearts ar ei 31ain ben-blwydd gan ennill y teitl i Celtic. Ar y 26ain o Fehefin 2006, arwyddodd Hartson gytundeb dwy-flynedd gyda West Bromich Albion am £500,000. Sgoriodd Hartson ddwy waith yn ei gêm gyntaf gan faeddu Hull City o 2-0 ar Awst y 5ed 2006.

Ar ddydd Gwener 31 Awst 2007, dywedodd The Times fod Hartson wedi arwyddo i Nottingham Forrest. Ar ddydd Mercher 5 Medi 2007, cyhoeddodd The Western Mail fod Hartson wedi gwrthod cais pendant wrth Nottingham Forrest a'i fod ar fin arwyddo cytundeb gyda'r clwb o'i ddinas enedigol, Dinas Abertawe. Fodd bynnag, yn fuan iawn rhyddhaodd y clwb ddatganiad i'r wasg ar ei wefan yn gwadu bod Hartson yn bwriadu ymuno â'r clwb.

Yn Hydref 2007, ymunodd Hartson â Norwich City ar fenthyg am fis. Er i Norwich gael yr opsiwn i ymestyn y benthyciad tan 31ain o Ragfyr, penderfynodd eu rheolwr newydd Glenn Roeder ddanfon Hartson yn ôl i West Bromich Albion ar ddiwedd y mis. Yna gwrthododd gynnig i ymuno â Chester City ar fenthyg. Yn Ionawr 2008, cafodd Hartson ei ryddhau gan West Bromich Albion, chwech mis cyn diwedd ei gytundeb.

Ar 7 Medi 2008, cyhoeddodd Hartson ei fod yn ymddeol o pêl-droed proffesiynol, gan ddweud mai ei frwydr tymor hir gyda'i bwysau a'i ffitrwydd oedd ei prif resymau dros ddod ei yrfa pêl-droed i ben.

Salwch

Ar 15 Gorffennaf 2009 cyhoeddwyd fod gan Hartson gancr a oedd wedi lledu i'w ysgyfaint. Yn gynharach yr un wythnos, dywedwyd hefyd fod ganddo gancr y ceilliau a oedd wedi ymledu i'w ymennydd. Dywedwyd y byddai'n dechrau ar gwrs o radiotherapi a cemotherapi. Ar 3 Awst 2009 cafodd Hartson ei symud o'r uned gofal ddwys yn Ysbyty Treforys i ofal y tîm cancr yn Ysbyty Singleton, Abertawe. Daeth y sesiynau cemotherapi i ben yn Hydref a dechreuodd John ar y broses hir o wella.

Ystadegau Gyrfa

Tîm cendlaethol pêl-droed Cymru
YearAppsGoals
1995 4 0
1996 3 0
1997 4 1
1998 3 1
1999 4 0
2000 2 0
2001 6 4
2002 7 2
2003 7 3
2004 5 3
2005 6 0
Cyfanswm 51 14

Cyfeiriadau

Tags:

John Hartson Gyrfa pêl-droedJohn Hartson SalwchJohn Hartson Ystadegau GyrfaJohn Hartson CyfeiriadauJohn Hartson19755 EbrillAbertaweCymruPêl-droedWest Bromich AlbionYsgol Gyfun Gŵyr

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

InvertigoNicaragwaCREBBPMathemategFfisegParalelogramWy (bwyd)Gwlad IorddonenThe Heyday of The Insensitive BastardsVery Bad ThingsGwlad drawsgyfandirolFuerteventuraCelt (band)SomalilandIrbesartanY Deyrnas UnedigOdlRhyw llawGareth BalePussy RiotAda LovelaceDwight YoakamSigarét electronigSwedenDafydd IwanThe Bitter Tea of General YenYr Eglwys Gatholig RufeinigIeithoedd GermanaiddMesonCemegMaes Awyr PerthSwydd GaerloywEwropDavid MillarEfyddCaeredinBlwyddyn naid1950Huw EdwardsAngela 2Hufen tolchBig BoobsEfrog NewyddSymbolLluoedd Arfog yr Unol DaleithiauIeithoedd Indo-EwropeaiddLleuwen SteffanEdward Morus JonesBrìghdeRhyw rhefrolHunan leddfuMwstardTerfysgaethSyniadAwstraliaContactThe New York TimesTeisen siocledAfter EarthRhestr Cymry enwogKathleen Mary FerrierDarlithydd30 MehefinWilliam Howard TaftKundunRhylDestins ViolésPenarlâgMET-Art🡆 More