Roedd Derek Jon Boote yn ganwr ac actor Cymraeg (13 Rhagfyr, 1942 – 29 Tachwedd 1974).
Derek Boote | |
---|---|
Ganwyd | 13 Rhagfyr 1942 Gaerwen |
Bu farw | 29 Tachwedd 1974 Cas-gwent |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor teledu, canwr |
Daeth Boote o bentref y Star, ger Gaerwen ar Ynys Môn. Addysgwyd ef yn Ysgol Gyfun Llangefni ac yng Choleg Cerdd a Drama, Caerdydd.
Chwaraeodd Boote y gitâr a'r bas dwbl a chanu gyda'r darlledwr Hywel Gwynfryn; yn ddiweddarach fe wnaethant ffurfio grŵp gyda Endaf Emlyn o'r enw Yr Eiddoch yn Gywir. Cystadlodd Boote yn nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1971.
Perfformiodd Boote ochr yn ochr â'r ddeuawd boblogaidd Ryan a Ronnie (Ryan Davies a Ronnie Williams), gan chwarae'r cymeriad Nigel Wyn gwreiddiol ar eu sioe sgets. Ar ôl iddo farw, daeth Bryn Williams yn ei le. Ymddangosodd hefyd yn y rhaglen deledu Gymraeg Dau a Hanner.
Bu hefyd iddo ymddangos ar gyfresi cerddoriaeth boblogaidd, The Singing Barn (1969) a The Singing Barge (1974).
Yn 1969 ymddangosodd gyda Hywel Gwynfryn, Olwen Rees a Heulwen Haf yn Gwendid ar y Lleuad, rhaglen deledu gomedi a ddisgrifwyd fel "sioe gomedi Bythonaidd gyda hiwmor coch ac ambell gip o gyrff pinc". Mae erthygl ar wefan BBC Cymru yn dweud fod deiseb wedi ei drefnu yn erbyn yn y rhaglen, yn cwyno ei fod yn "anweddus" a bod y rhaglen wedi ei atal ar ôl tair pennod. Mae archif BBC Genome, sy'n tarddu o gofnodion y Radio Times yn dangos fod chwe pennod wedi ei amserlennu rhwng 16 Ionawr a 20 Chwefror 1969.
Rhyddhaodd Boote record EP Byw'n Rhydd ar label Recordiau'r Dryw.
Weithiau roedd Boote yn dysgu yn Ysgol Gyfun Llanhari, ac yn chwe troedfedd pedair modfedd (1.93m) o daldra roedd yn chwaraewr rygbi amatur brwd.
Bu farw Boote ym 1974 mewn ysbyty yng Nghas-gwent, yn dilyn damwain annisgwyl ac anffodus. Ym mis Hydref 1974, roedd yn ffilmio rhaglen i blant, Maldwyn Aldwyn yn stiwdio'r BBC yn Llandaf.. Yn ystod egwyl roedd yn smocio yn ei stafell newid pan aeth ei wisg ar dân ar ôl iddo ollwng lludw sigarét arni, a chafodd ei losgi’n ddifrifol. Bu farw rhai wythnosau yn ddiweddarach ym mis Tachwedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Derek Boote, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.