Hywel Gwynfryn: Cyflwynydd radio-a-theledu o Gymro

Darlledwr o Gymro yw Hywel Gwynfryn (ganwyd 13 Gorffennaf 1942).

Cafodd ei eni yn Llangefni, Ynys Môn, a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llangefni a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd. Mae wedi bod yn gyflwynydd radio a theledu ers 1964.

Hywel Gwynfryn
GanwydHywel Gwynfryn Evans Edit this on Wikidata
13 Gorffennaf 1942 Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, cyflwynydd teledu, darlledwr, cyflwynydd radio Edit this on Wikidata
llofnod
Hywel Gwynfryn: Gyrfa, Bywyd personol, Llyfryddiaeth

Gyrfa

Fe ymunodd a'r BBC yn 1964 fel cyflwynydd ar raglen gylchgrawn dyddiol ar deledu. Dechreuodd gyflwyno'r rhaglen bop Cymraeg gyntaf Helo Sut Da Chi? ar y radio yn 1968. Ymunodd a'r adran rhaglenni plant yn 1970 a theithiodd y byd yn ffilmio rhaglenni dogfen ar gyfer Bilidowcar.

Mae wedi bod yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru ers sefydliad y sianel. Bu hefyd yn cyflwyno o faes yr Eisteddfod ers 1966 ar radio a theledu.

Ar y radio roedd yn cyflwyno'r rhaglen foreol Helo Bobol ac yn 1980 dechreuodd gyflwyno Rhaglen Hywel Gwynfryn, sioe sgwrsio deledu a ddarlledwyd yn fyw ar nos Sul. Yn 1990, cyflwynodd rhaglen deledu Ar Dy Feic oedd yn dilyn hanes teuluoedd oedd wedi symud o Gymru i ddilyn eu breuddwyd mewn amryw fannau yn y byd. Cyd-gyflwynodd y rhaglen foreol ar Radio Cymru Hywel a Nia hyd at 2008.

Ysgrifennodd y geiriau i nifer o ganeuon pop, yn ogystal â phedwar pantomeim, a'r ffilm Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig ar gyfer S4C.

Cafodd ei urddo i wisg werdd yr Eisteddfod yn y 1970au ac yna'r wisg wen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 1988 am wasanaethau i ddarlledu.

Derbyniodd Wobr Cyfraniad Arbennig BAFTA Cymru 2023 mewn seremoni yng Nghasnewydd ar 15 Hydref 2023. Wrth gyflwyno'r wobr i'r "anhygoel, yr amryddawn Hywel Gwynfryn" fe ddywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards ei fod "yn bencampwr" cerddoriaeth a diwylliant poblogaidd Cymraeg ers degawdau.

Bywyd personol

Roedd yn briod ac Anja ac roedd ganddynt bump o blant, yn cynnwys Huw Evans. Bu farw Anja ar 6 Hydref 2018 yn 66 mlwydd oed. Mae gan Gwynfryn dau blentyn o'i briodas gyntaf.

Llyfryddiaeth

Mae Gwynfryn yn awdur neu gyd-awdur ar sawl llyfr, cynnwys hunangofiant Margaret Williams, cofiant David Lloyd, cofiant Hugh Griffith a chyfrol am hanes Ryan a Ronnie. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Y Dyn 'i Hun ym mis Tachwedd 2004 gan Wasg Gwynedd (ISBN 9780860742050).

Cyfeiriadau

Tags:

Hywel Gwynfryn GyrfaHywel Gwynfryn Bywyd personolHywel Gwynfryn LlyfryddiaethHywel Gwynfryn CyfeiriadauHywel Gwynfryn13 Gorffennaf1942CaerdyddColeg Brenhinol Cerdd a Drama CaerdyddLlangefniYnys MônYsgol Gyfun Llangefni

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Ni LjugerTŷ unnosNovialUTC7Nizhniy NovgorodBahadur Shah ZafarAwenAffganistanAlgeriaNeonstadtFietnamVolkswagen TransporterDerek UnderwoodGlawIago II, brenin yr AlbanThe Gypsy MothsGwledydd y bydCombrewJohn Williams (Brynsiencyn)Alban HefinMegan Hebrwng MoethusYsgrifau BeirniadolRhestr planhigion bwytadwyDe CoreaRwsiaGlasgwm, PowysLlanharanTsieinaElizabeth TaylorCattle KingBaskin-RobbinsLerpwlC'mon Midffîld!Yr AlbanThe Fantasy of Deer WarriorBrychan LlŷrChirodini Tumi Je AmarBethan GwanasGlöyn bywGweriniaeth IwerddonThe Salton SeaEMediLlyn AlawYr EidalMecsicoBretagneComisiwn Gwarantau a Chyfnewid yr Unol DaleithiauAwstHunan leddfuSemenTîm pêl-droed cenedlaethol CymruIago VI yr Alban a I LloegrMeddygIn My Skin (cyfres deledu)TeyrnasDohaPla DuAmaethyddiaethCreampieCaer bentirPussy RiotTsieineegYumi WatanabeYmerodraethLlywodraeth leol yng Nghymru🡆 More