Deuawd canu pop Cymraeg a chaneuon gwerin ysgafn o ardal Bangor yn yr 1960au canol a dechrau'r 1970au oedd Aled a Reg.
Eu henwau oedd Aled Hughes a Reg Edwards.
Enghraifft o'r canlynol | deuawd |
---|---|
Genre | canu gwerin, cerddoriaeth boblogaidd |
Bu iddyn rhyddhau sawl record ac ymddangos ar raglenni cerddoriaeth Gymraeg fel Hob y Deri Dando yn 1968. Yn hwyrach yn eu gyrfa ymunodd Nia â nhw.
Roedd Aled Hughes a Reg Edwards wedi bod yn canu gyda grŵp Hogia Bangor cyn canu fel deuawd.
Cynhwysir eu cân, Llwybr y Plwy, a ymddangosodd gyntaf ar record LP "Yn Canu'n Llon" yn 1968 ar albwm amlgyfrannog gan Recordiau Sain o'r enw 'Y Bois a'r Hogia'. Mae'r albwm a gyhoeddwyd yn 2010 yn cynnwys detholiad o ganeuon gan grwpiau a deuawau canu ysgafn Cymraeg o'r 1960au a'r 70au cynnar fel Aled a Reg; Y Derwyddon, Hogia Llandegai, Hogiau'r Deulyn, Y Pelydrau, Y Cwiltiaid, Y Diliau, a Bois y Blacbord.
Mewn sgwrs o'i gartref yn Neiniolen ger Caernarfon atgofiai Reg Edwards am ei yrfa. Bu iddo ddechrau canu yn 15 oed gan gael i sylwi gan Wilbert Lloyd Roberts oedd yn gynhyrchydd gyda'r BBC. Byddai'n mynd i Neuadd y Penrhyn ym Mangor oedd yn stiwtio dros dro i gymryd rhan mewn rhaglenni gan gynnwys canu gyda band cefndir, 'Hebogiad y Nos', o Gaergybi.
Roedd Aled a Reg yn gweithio ar y rheilffyrdd gydag Aled yn yrrwr pan ddechreuasant ganu fel deuawd. Gwahoddwyd nhw fel deuawd ar raglen Hob y Deri Dando gan y gynhyrchydd, Meredydd Evans oedd yn cael ei recordio yn Neuadd y Penrhyn. Bu iddynt ymddangos sawl gwaith ar y gyfres. Bu i'r ddau berfformio ar draws Cymru ac yng nghyngerdd enwog 'Pinaclau Pop' a gynhadliwyd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar 29 Mehefin 1968 i godi arian i Eisteddfod Genedlaeth yr Urdd, Aberystwyth 1969 ynghŷd a pherfformiwyr adnabyddus eraill bu'n perffordmio fel Dafydd Iwan, Heather Jones, Hogia Llandegai, Y Derwyddon, Y Pelydrau, Y Cwiltiaid, Mari Griffith, Diliau a mwy gyda Ryan Davies yn cyflwyno i gynulleidfa o 3,000 o bobl.
Wedi cyfnod yn canu gydag Aled aeth Reg yn ei flaen i ganu'n unigol gan newid ei enw llwyfan i Greg Edwards. Mewn cyfweliad gyda'r Daily Post yn 2015 atgofiau Reg fel iddo ef ac Aled gwrdd gyda'r perfformiwr enwog Ivor Emmanuel yn bar y BBC yng Nghaerdydd wedi recordio rhaglen Gwlad y Gân. Dyfarodd Reg iddo beidio ateb gwahoddiad am glyweliad gan y canwr enwog.
Dyma'r ddisgyddiaeth sy'n wybyddus. Nid yw'n glir os oedd Aled a Reg Rhif 1 ar gael.
caneuon: Ochr A: San Miguel; Aur Y Bryniau; Annabella. Ochr B: Byth Yn Anghof, Cusan Fach Anwylid, Merched Cymru.
Caneuon: Ochr A: Ynys Môn; Dyddiau Difyr; Rhen Ganwyll Ar Y Bwrdd. Ochr B: Chwyfio'r Cadach Gwyn; Câr Fi'n Dyner (cyfieithiad o 'Love Me Tender')
Caneuon: Ochr A: John Bee; Gwenllian Fach; Oer Yw Fy Serch. Ochr B: Os Ydym Fwy; Hiraeth Am Bethesda; Llwybr Y Plwy
Caneuon: Ochr A: Anna Marie; Dowch I America; Gwrando Ar Fy Nhgri Ochr B: Dacw'r Bwthyn Gwyn
Caneuon: Ochr A: Tyrd Adre Gyda Mi; Ar Lan Y Môr. Ochr B: R'wyf Ond Yn Byw; Fe Rown Yr Hyn Oll
Caneuon: Ochr A: Yr Annwyl Eneth Hon; Yr Hen Simdda Fawr. Ochr B: Cariad Y Bardd; Morfydd; Hogyn Gyrru'r Wedd
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Aled a Reg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.