Recordiau'r Dryw: Label Recordiau Cymreig

Cwmni recordiau Cymreig oedd Recordiau'r Dryw ac o dan yr enw Saesneg, Wren Records.

Sefydlwyd y cwmni recordiau yma fel estyniad o gwmni cyhoeddi Llyfrau’r Dryw, Llandybie, gyda Dennis Charles Rees (“Den The Wren”) wrth lyw y cwmni recordiau. Roedd Dennis Rees yn gweithio i Alun Talfan Davies QC fel rheolwr Llyfrau’r Dryw cyn cymryd rheolaeth ar adain recordiau’r cwmni.

Recordiau'r Dryw
Enghraifft o'r canlynollabel recordio Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1964 Edit this on Wikidata
Genreart music, cerddoriaeth gorawl, canu gwerin, cerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
{{{enw'r label recordio}}}
Sefydlwyd {{{sefydlwyd}}}
Sylfaenydd {{{sylfaenydd}}}
Math o gerddoriaeth {{{math o gerddoriaeth}}}
Gwlad {{{gwlad}}}

Roedd ganddynt stiwdio recordio yn hen adeilad y BBC yn Heol Alexandra, Abertawe. Un o’r unig gwmniau recordio Cymraeg o’r cyfnod i fod yn berchen eu stiwdio eu hunain.

Rhyddhawyd tua 200 o senglau ac EPs a thua 80 o LPs a chasetiau rhwng 1964 a 1976, nes i Lyfrau’r Dryw droi yn Christopher Davies.

Artistiaid

Y record gyntaf oedd record Noson Lawen, gyda Bois y Blacbord (WRE 1001) yn 1964. Cyhoeddwyd recordiau gan enwogion y cyfnod, fel Aled a Reg, Ryan a Ronnie, Meic Stevens, Y Bara Menyn (grwp Cymraeg cyntaf Heather Jones, Geraint Jarman a Meic Stevens), Endaf Emlyn, Y Diliau, Hogia'r Wyddfa a record gyntaf y Tebot Piws yn 1970. Cafwyd hefyd recordiau o ganeuon mwy traddodiadol megis, 'Songs in Welsh Phillip Watkins, Welsh Boy Soprano'.

Cyhoeddodd y cwmni record fer (DRYW001) yn 1967 gan aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans, lle y bu’n llefaru yn Gymraeg ar un ochr o’r record ac yn Saesneg ar y llall yn dilyn ei ethol fel aelod seneddol Caerfyrddin.

Un o ddargynfyddiadau mawr cwmni’r Dryw oedd yr un a’r unig Meic Stevens. Cyhoeddodd recordiau enwog fel Mwg, Cân Walter, Byw Yn Y Wlad a’r Eryr A’r Golomen, yn ogystal a’r record hir fythgofiadwy 'Gwymon' yn 1972. Mae’n debyg mai Meic ddechreuodd alw Dennis Rees yn “Den The Wren”.

Recordiau Addysgiadol

Yn 1967-8, rhyddhaodd y cwmni gyfres fer o recordiau hir ar is-label Wren Educational Record Library, dan y teitl 'Wales And Her History' (Wren QDR 101-105).

Hefyd yn 1967 fe ryddhaodd y cwmni gyfres fer o recordiau 7 modfedd ar gyfer ysgolion, dan y teitl “Disgiau Dysgu Difyr” – roedd rhai o’r rhain yn cynnwys llyfryn. Roedd eu label cylch yn y canol yn cael eu cyhoeddi mewn lliwiau gwahanol.

Fel rhan o gyhoeddi materion addysgiadol, yn 1970 fe gyhoeddodd y cwmni gyfres Recordiau’r Ysgol A’r Aelwyd, cyfres o 12 record hir yn ymdrin ac enwogion y genedl.

Dod i ben

Erbyn ganol y 70au, daeth Dryw/Wren i ben a gwerthwyd y stiwdio. Mae cwmni Sain yn berchen ar eu catalog recordiau y dyddiau hyn ac yn achlysurol fe welir rhai o’r hen ganeuon yn ymddangos ar gynnyrch Sain. Bu farw Dennis Rees ymi mis Gorffennaf 2011.

Dolenni

  • WREN - Gwefan i bobl sy'n casglu casgliad Recordiau'r Dryw/Wren Records

Cyfeiriadau

Tags:

Recordiau'r Dryw ArtistiaidRecordiau'r Dryw Recordiau AddysgiadolRecordiau'r Dryw Dod i benRecordiau'r Dryw DolenniRecordiau'r Dryw CyfeiriadauRecordiau'r DrywAlun Talfan DaviesLlandybie

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

25BwncathComisiynydd y GymraegCleopatra14eg ganrif2024Just TonyKlaipėdaHollt GwenerY Brenin ArthurGlawHope, PowysNeymarNo Man's Gold20gHafanSgethrogMadeleine PauliacNew Brunswick, New JerseyHanes JamaicaKen OwensStiller SommerFfisegBig JakeSpring SilkwormsIâr ddŵrRhif Llyfr Safonol Rhyngwladol37Abaty Ystrad FflurGlöyn bywC.P.D. Dinas AbertaweTywysog CymruFandaliaidCannu rhefrolConversazioni All'aria ApertaAsgwrnMartyn GeraintTor (rhwydwaith)CalsugnoCyfarwyddwr ffilmRSSYr AlbanISO 4217Purani KabarIndiaDafydd Dafis (actor)Cynnwys rhyddGari WilliamsAwstralia (cyfandir)Sir Gawain and the Green KnightYmddeoliadIfan Huw DafyddCyfrifiadPrifysgol CaerdyddAwstraliaGwersyll difaMudiad dinesyddion sofranOceaniaYr HolocostY Chwyldro FfrengigComin WicimediaConnecticutBethan GwanasBugail Geifr LorraineSystem weithreduThe Salton SeaRhagddodiadHogia LlandegaiCelfAndrew Scott🡆 More