Penllyn yw'r ardal sydd o gwmpas Llyn Tegid a'r Bala ym Meirionnydd (de-ddwyrain Gwynedd).
Mae'n cynnwys plwyfi Llandderfel, Llanfor, Llangywair, Llanycil a Llanuwchllyn. Mae Penllyn yn ardal sy'n enwog am ei chyfraniad i ddiwylliant Cymru a llenyddiaeth Gymraeg. Dyma ardal "Y Pethe", chwedl Llwyd o'r Bryn.
Math | anheddiad dynol, ardal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.92°N 4.22°W |
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959 Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies) | |
Yn Oes y Tywysogion cantref oedd Penllyn. Cynhelid ei lys yng Nghaer Gai, ger Llyn Tegid, ond yn ddiweddarach fe'i symudwyd i'r Bala. Roedd yn gantref ar y ffin rhwng teyrnas Gwynedd a Phowys. Ymddengys iddo ddechrau fel arglwyddiaeth annibynnol. Cysylltir yr arwr chwedlonol Gronw Pebyr â Phenllyn ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi. Aeth yn rhan o deyrnas Powys yn y cyfnod cynnar. Roedd yn fan o bwys strategol yn gorwedd rhwng Ardudwy a Meirionnydd yn y gorllewin a Glyndyfrdwy yn y dwyrain a cheisiai tywysogion Gwynedd sicrhau meddiant arno er mwyn amddiffyn Gwynedd o ymosodiadau o du Powys a'r dwyrain. Fe'i cipiwyd yn derfynol gan Llywelyn Fawr ar ddechrau'r 13g. Ar ôl goresgyniad 1284 fe'i unwyd â Meirionnydd ac Ardudwy i greu Sir Feirionnydd.
Ymrennid Penllyn yn ddau gwmwd:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Penllyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.