Caer Rufeinig yn ardal Penllyn, Gwynedd, yw Caer Gai (hefyd Caer-gai).
Saif 1 filltir i'r gogledd o bentref Llanuwchllyn, 5 milltir i'r gorllewin o'r Bala; cyfeiriad grid SH877314.
Math | caer Rufeinig, adeilad Rhufeinig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanuwchllyn |
Sir | Llanuwchllyn |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 202 metr |
Cyfesurynnau | 52.8692°N 3.66926°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | ME018 |
Rhed Afon Dyfrdwy wrth droed y gaer. Yn gefn iddi i'r gogledd mae'r bryniau'n codi i gyrraedd 854m yn Arennig Fawr. O'i blaen mae mynyddoedd Y Berwyn ac Aran Benllyn. Mae'r ffordd Rufeinig o Gaer i Frithdir (ar Sarn Helen) yn rhedeg heibio iddi. Mae ffordd Rufeinig arall yn cysylltu'r gaer â chaer Rufeinig Tomen y Mur, trwy Bennant-Lliw.
Mae Caer Gai yn gorwedd ar ysgwydd gron isel â llethrau syrth ar dair ochr iddi. Mae'n amgae 4 acer o dir. Mae'r mur allanol i'w gweld yma ac acw, gyda phum haen o waith carreg. Mae plasdy Caer Gai (17g yn ei ffurf bresennol) yn cuddio rhan o'r gaer Rufeinig. Ceir rhyd ar y ffordd Rufeinig wrth ymyl y gaer.
Credir i'r gaer gyntaf, o bridd a phren, gael ei chodi yng nghyfnod Titus. Codwyd caer o waith cerrig yno tua dechrau'r 2ail ganrif. Cafwyd hyd i ddarn o gerflun gydag arysgrif Ladin arno sy'n cofnodi iddo gael 'ei wneud gan Iulius fab Gavero, milwr yng Nghohort Cyntaf y Nervii' ('IVLIVS GAVERONIS F(ilius) FE(cit) MIL(es) CHO I NER(vium)'. Roedd y cerflun yn sefyll mewn cysegrfan 100m i'r dwyrain o'r gaer; cafwyd darnau o grochenwaith yno hefyd sy'n dyddio i'r cyfnod tua 100-150.
Cafwyd hyd i fynwent Rufeinig gysylltiedig â'r gaer 400m i'r gogledd-ddwyrain. Tybir fod tref fechan yn ymyl y gaer. Darganfuwyd olion adeilad, baddondy Rhufeinig yn ôl pob tebyg, i'r de-ddwyrain o'r safle.
Enwir y gaer ar ôl yr arwr chwedlonol Cai fab Cynyr, a gysylltir â chwedlau cylch Arthur, gan gynnwys Culhwch ac Olwen a'r Tair Rhamant. Ceir cyfeiriadau yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr at Gaer Gai fel ei gartref.
Yn yr Oesoedd Canol diweddar yr oedd Caer Gai yn gartref i'r bardd Tudur Penllyn (c. 1420 - 1485) a'i fab Ieuan ap Tudur Penllyn (fl. c. 1480). Cafodd Tudur Gaer Gai ar ôl priodi Gwerful ferch Ieuan Fychan, oedd yn ddisgynnydd i Ririd Flaidd (m. tua 1160), ac mae'n bosibl fod Caer Gai ym meddiant Rhirid pan gafodd arglwyddiaeth Penllyn. Ceir cyfeiriadau at gynnal llys Penllyn yng Nghaer Gai yn yr Oesoedd Canol, cyn ei symud i'r Bala.
Cofrestrwyd y plasty yn Radd II*, oherwydd ei bwysigrwydd hanesyddol a'i gysylltiad o fewn y gaer Rhufeinig ac i deulu'r Vaughan. Yn ddiweddarach codwyd plasdy newydd ar y safle. Yno y trigai Rowland Vaughan (c.1587 - 1667), bardd a brenhinwr enwog yn y Rhyfel Cartref. Llosgwyd y plasdy i lawr yn 1645 yn ystod y Rhyfel Cartref ond codwyd ffermdy sylweddol yn ei le, sy'n dal i sefyll heddiw.
Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: ME018.
Caerau Rhufeinig Cymru | |
---|---|
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Caer Gai, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.