Roedd Teyrnas Glywysing yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru.
Roedd ei phobl yn ddisgynyddion i'r Silwriaid, llwyth Brythonaidd a drigai yn ne-ddwyrain Cymru yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Ychydig iawn a wyddys amdani.
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959 Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies) | |
Yn ôl traddodiad, enwyd Glywysing ar ôl Glywys, y brenin a'i sefydlodd. Diau y symudai ffiniau'r deyrnas o bryd i'w gilydd, ond credir fod calon y deyrnas yn gorwedd yn yr ardal rhwng afonydd Wysg a Tawe. Ar adegau roedd ffiniau'r deyrnas yn ymestyn i gynnwys Gwent ac Ergyng, ond rhywbryd cyn yr 8g collwyd Cydweli a Gŵyr i deyrnas Dyfed.
Gwyddys enwau rhai o'r brenhinoedd cynnar, fel Ithel (c.715-145). Ymranodd y deyrnas yn fuan ar ôl ei deyrnasiad.
Yn hwyr yn y 10g, daeth teyrnas Glwysing yn rhan o deyrnas Morgannwg neu Gwlad Morgan, a enwyd felly ar ôl ei brenin Morgan Hen.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Teyrnas Glywysing, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.