Nantperis: Pentref ger troed yr Wyddfa

Pentref bychan yng nghymuned Llanberis, Gwynedd, Cymru, yw Nantperis ( ynganiad ).

Saif yn Eryri yn nyffryn "Nant Peris", ychydig i'r de-ddwyrain o Lyn Peris a phentref Llanberis. Mae Bwlch Llanberis yn arwain ymlaen i'r de-ddwyrain o'r pentref.

Nantperis
Nantperis: Enwogion, Dyfodiad yr haul, Gweler hefyd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.10474°N 4.086172°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH608584 Edit this on Wikidata

Cysegrwyd yr eglwys i Sant Peris; hwn yw'r sefydliad gwreiddiol yn hytrach na Llanberis. Heb fod ymhell o'r eglwys mae Ffynnon Peris. Yn ôl traddodiad roedd dau frithyll yn arfer byw yn y ffynnon, ac os byddai'r sawl fyddai'n ymweld â'r ffynnon i geisio iachad yn gweld y brithyll, byddai ei gais yn llwyddiannus.

Mae'r pentref yn ganolfan boblogaidd gan ddringwyr, ac mae maes gwersylla yno; ceir hefyd un dafarn, Y Vaynol Arms. Gellir parcio yma a chymeryd bws "Sherpa'r Wyddfa" i Ben-y-pas ar gyfer dringo'r Wyddfa.

Mae "Nant Peris" neu "Afon Nant Peris" hefyd yn enw ar yr afon sy'n llifo i lawr Bwlch Llanberis a heibio'r pentref; a defnyddir "Nant Peris" fel enw arall ar Fwlch Llanberis ei hun hefyd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).

Enwogion

Ganed y llenor William John Davies (Gwilym Peris) yn y Nant yn 1888. Symudodd i fyw yng Nghaernarfon ond roedd ei wreiddiau yn Nant Peris a defyddiai'r enw barddol Gwilym Peris.

Claddwyd y darlledwr Huw Wheldon yn y fynwent.

Dyfodiad yr haul

Mae gan drigolion Nant Peris wrth droed y Wyddfa un diwrnod arbennig yn y flwyddyn pan fo pawb yn edrych ymlaen at weld yr haul. Y dyddiad pwysig hwnnw yw Ionawr 13. Am chwe wythnos hir cyn y 13, nid yw pelydrau’r haul yn cyffwrdd â’r pentref. Y rheswm am hyn yw fod y Grib Goch a’r Wyddfa yn rhwystro iddo wenu arnom. Byddwn yn edrych yn hiraethus iawn arno’n dod i lawr yn araf o ris i ris ar lethrau’r Elidir, Y Garn a’r Glyder. Daw heibio’r Ceunant a’r Fron i lawr at Ty Isaf; ond cyn cyffwrdd â’r pentref mae’n troi yn ei ôl a dringo i gopaon Y Garn a’r Glyder ac ô’r golwg. Pob blwyddyn ar y 13 o Ionawr gwelwn yr haul yn agosáu fel pob diwrnod gaeafol clir arall, ond y tro yma nid yw’n troi’n ôl o Ty Isaf. ... mae’n cario ymlaen ac yn tywynnu ar groes fach ar dŵr yr eglwys ... dim ond am ryw ddau funud cyn cychwyn yn ôl ar ei hynt i gopaon y mynyddoedd uchel. Er mai ond prin ddau funud yr arhosa’r haul ar dŵr Eglwys hynafol Sant Peris, mae’n ddiwrnod pwysig iawn o Ionawr yn rhoi gobaith fod dyddiau heulog hir yr haf yn agosau a thywyllwch duaf y gaeaf wedi mynd – ninnau fel paganiaid Affrica yn llawenhau a gorfeleddu ... a bron yn addoli’r haul.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Nantperis EnwogionNantperis Dyfodiad yr haulNantperis Gweler hefydNantperis CyfeiriadauNantperisBwlch LlanberisCymruCymuned (Cymru)Delwedd:Nantperis.oggEryriGwyneddLlanberisLlyn PerisNantperis.oggWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

GwefanEglwys Sant Baglan, Llanfaglan11 TachweddY CeltiaidCSF3BrominBatri lithiwm-ionHwngariLinda De MorrerPompeiiMain PageHafanHenry FordLas Viudas De Los JuevesPriddPisoApple Inc.FfraincLlundainYr ArianninAthaleiaFist of Fury 1991 IiETAHanes MaliThomas MoreAlban HefinBronnoethWhatsAppSam TânDaeargryn Sichuan 2008Baner enfys (mudiad LHDT)CiwcymbrSystem rheoli cynnwysNitrogenYr Ail Ryfel BydHarri VII, brenin LloegrHentai KamenMean MachineOutlaw KingDear Mr. WonderfulOprah WinfreyOrgasmThe MatrixGwyddoniadurCyfrifiadurLlên Rwsia19327 MediWatDewiniaeth Caos1946John AubreyCymeriadau chwedlonol CymreigKArgraffuOperation SplitsvilleMeilir GwyneddVaxxedTîm pêl-droed cenedlaethol yr EidalBrithyn pruddSorelaNovialMy MistressEisteddfod Genedlaethol CymruTeyrnon Twrf LiantGregor MendelMaureen RhysLaserFari Nella NebbiaY rhyngrwydArian cyfredBerf🡆 More