Roedd Syr Huw Wheldon (7 Mai 1916 – 14 Mawrth 1986) yn ddarlledwr a chynhyrchydd ar rwydwaith cenedlaethol y BBC yn ystod y 1950au a'r 1960au.
Ganwyd ef ym Mhrestatyn ac fe'i magwyd ym Mangor, lle y mynychodd Ysgol Friars.
Huw Wheldon | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mai 1916 |
Bu farw | 14 Mawrth 1986 o canser |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, person busnes |
Swydd | president of the Royal Television Society |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Croes filwrol, OBE, Gwobr Ryngwladol Emmy am Gyfarwyddo, Marchog Faglor |
Yn ffigwr blaenllaw ym myd darlledu'r celfyddydau yn ystod y cyfnod, dechreuodd ei yrfa ddarlledu fel cyflwynydd ar y rhaglen i blant, All Your Own. O 1958 i 1964 roedd yn olygydd ar y rhaglen gelfyddydau, Monitor, lle yr ymddangosodd fel y prif gyfwelydd, yn arwain tîm a oedd y cynnwys David Jones, Ken Russell a Melvyn Bragg.
Ym 1962 daeth yn bennaeth rhaglenni dogfen y BBC, rôl a ehangodd i fod yn bennaeth cerddoriaeth a rhaglenni dogfen y flwyddyn ganlynol. Ym 1965 apwyntiwyd ef yn reolwr rhaglenni a cafodd ei ddyrchafu i swydd rheolwr gyfarwyddwr Teledu'r BBC ym 1968. Parhaodd yn y swydd hon hyd ei ymddeoliad ym 1975. Oherwydd ei oed, ni chafodd olynu Charles Curran fel cyfarwyddwr cyffredinol y BBC.
Cafodd ei urddo'n farchog ym 1976 am ei wasanaethau i'r byd darlledu. Roedd Wheldon yn briod â'r nofelydd Jacqueline Wheldon ac roedd ganddynt dri o blant.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Huw Wheldon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.