Mae pedrochr yn bolygon gyda phedair ymyl (neu ochrau) a phedair fertig (y pwynt lle mae dwy linell syth yn cyfarfod) neu 'gornel'.
Mae'r petryal (rectangle) yn un math o bedrochor, a cheir sawl math arall (gweler isod). Mae rhai'n amgrwm ac eraill yn geugrwm; mewn pedrochr cefngrwm, mae un ongl fewnol yn fwy na 180 ° ac mae un o'r ddau groesliniau yn gorwedd y tu allan i'r pedrochr. 'Pevarc'hostezeg' yw'r gair Llydaweg a defnyddir amrwyiadau o'r gair Lladin quadrilatus gan nifer o ieithoedd gan gynnwys quadrilàter (Catalaneg) a quadrilatèr (Ocsitaneg).
Pan nad yw'r ochrau'n croestori, dywedir fod y polygon yn un syml.
Mae onglau mewnol pedrochr syml ABCD yn adio i gyfanswm o 360 gradd; neu mewn hafaliad:
Mae hyn yn anghyffredin gan fod fformiwla swm yr onglau mewnol n-agon yn (n − 2) × 180°.
Mae pedrochrau syml hefyd yn brithweithio (tessalate) drwy eu cylchdroi sawl tro o gwmpas y pwynt hanner ffordd ar hyd eu hochrau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pedrochr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.