Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Grangetown.
Mae'n un o faestrefi mwyaf Caerdydd, ac mae'n ffinio ag ardaloedd Glan'rafon, Treganna a Thre-Biwt. Mae Afon Taf yn nadreddu drwy'r ardal. Fe'i datblygwyd gan deulu Winsdor-Clive, yn bennaf. Gyferbyn ag ardal Bae Caerdydd, mae Grangetown wedi ennill o'r datblygiadau a welwyd yno'n ddiweddar, gan gynnwys adeiladau newydd a gwasanaethau megis cysylltiadau trafnidiaeth gwell.
Math | cymuned, maestref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4675°N 3.1853°W |
Cod SYG | W04000847 |
Roedd gan Grangetown boblogaeth o 18,362 mewn 8,261 aelwyd adeg cyfrifiad 2011. Mae'n ardal amrywiol ac amlddiwylliannol, gyda phoblogaeth sylweddol o bobl o dras Somaliaidd, Asiaidd, a thras cymysg. Mae'n gartref i deml Hindŵ mwyaf Caerdydd, ac amryw o fosgiau gan gynnwys mosg newydd Abu Bakkar.
Grangetown yw'r enw safonol yn y Gymraeg. Mae'r enw'n cyfeirio at ystad neu grange a oedd yn eiddo gynt i Abaty Margam. Mae hen ffermdy y Grange, sydd â'i wreiddiau yn yr Oesoedd Canol, yn dal i'w weld ar gornel Clive Street a Stockland Street. Daeth yr enw Grangetown i fodolaeth yn 19g pan godwyd maestref newydd ar y tir o amlgylch y ffermdy.
Yn Gymraeg, gwelir weithiau yr amrywiadau Y Grange (sy'n dyddio'n ôl i'r 19g) ac Y Grenj – mae'r ddau'n cyfateb i'r Saesneg The Grange. Mae Owen John Thomas wedi arfer y ffurf Y Grange Mawr, sydd o bosibl yn dangos dylanwad ffurfiau Saesneg hynafol megis Mor Grange a Grange Moor.
Mae'r enwau Trelluest, Trefaenor a Trefynach yn fathiadau diweddar heb seiliau hanesyddol. Yr hanesydd John Davies a fathodd Trelluest ar sail enwau yng Ngheredigion a gynhwysai'r elfen lluest yn yr ystyr 'cartref dros dro'. Ond fel y dywed Elwyn Davies, ‘Lluest is not known as a name for a township or other administrative area, or for a grange of a monastery. Nor has it been traced as a place-name to such early dates [hynny yw, yr Oesoedd Canol].'
Grangetown yw'r ffurf a ddefnyddir gan Wyddoniadur Cymru (t. 118) ond mae hefyd yn cydnabod bolodaeth y ffurf Trelluest.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Grangetown, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.