Elfen gemegol yw ffosfforws a gaiff ei chynrychioli gan y symbol P a'r rhif atomig 15 yn y tabl cyfnodol.
Mae'n anfetel ac yn perthyn i'r grŵp nitrogen. Yn nhrefn safonnol IUPAC mae'r grŵp hwn (sef grŵp 15) yn cynnwys: nitrogen (N) (sy'n anfetel), ffosfforws (P) (anfetel), arsenig (As) (meteloid), antimoni (Sb) (meteloid), bismwth (Bi) (metel tlawd) ac ununpentiwm (Uup) (metel tlawd), mae'n debyg.
Ffosfforws | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Symbol | P | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhif | 15 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dwysedd | (gwyn) 1.823 g/cm³ (coch) 2.34 g/cm³ (du) 2.69 g/cm³ |
Enghraifft o'r canlynol | elfen gemegol |
---|---|
Math | polyatomic nonmetal, Anfetel |
Màs | 30.973761998 ±5e-09 uned Dalton |
Dyddiad darganfod | 1669 |
Symbol | P |
Rhif atomig | 15 |
Trefn yr electronnau | 1s² 2s² 2p⁶ 3s² 3p³, [Ne] 3s² 3p³ |
Electronegatifedd | 2.19 |
Cyflwr ocsidiad | 2.19 |
Rhan o | Elfen cyfnod 3, Elfen Grŵp 15 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'n elfen gyffredin iawn ar y Ddaear a gellir ei ganfod mewn creigiau ffosffad, ond oherwydd ei fod yn adweithio'n sydyn, nid yw i'w ganfod yn rhydd mewn natur. Ffosfforws gwyn a gafodd ei darganfod yn gyntaf a hynny yn 1669 gan yr alcemydd Almaenig Hennig Brand.
Caiff ei defnyddio'n helaeth i wneud cynnyrch megis dur, gwydr arbennig , ceramig safon uchel, ffrwydron, asiantau nerfol (nerve agents), matsis (ffrithiant a "diogel"), tân gwyllt ac (fel ffosffad) mewn gwrtaith diwydiannol, past dannedd, a sebonau golchi.
Cydnabyddir yr alcemydd Ellmynig Hennig Brand o ddarganfod ffosfforws yn 1669. Wrth geisio am yr eurfaen (philosopher's stone) trwy ferwi litrau lawer o wrin (troeth) pydredig cynhyrchodd past tebyg i gwyr a oedd yn goleuo yn y tywyllwch. Yn fanwl roedd wedi cynhyrchu ffosffad amoniwm sodiwm hydrogen. Gwerthodd ei gyfrinach i D Krafft o Ddresden am 200 thaler. Teithiodd Krafft Ewrop yn ei arddangos. Un o'r rhai a'i gwelodd oedd Robert Boyle. Dyfalodd hwnnw sut i wella'r broses, ac erbyn 1680 roedd wedi defnyddio ffosfforws ar gyfer math cyntefig o fatsen. (Heddiw fósforo (eg) yw'r gair Sbaeneg a Phortiwgaleg am fatsien.)
Oherwydd ei natur dra adweithiol, ar ffurf wedi'i glymu ag ocsigen (wedi'i ocsideiddio) y mae ffosfforws yn bodoli mewn natur (gan cynnwys wrin) bron yn ddieithriad. Gelwir hwn yn ffosffad (PO43-; yn ei ffurf wedi'i llwyr ïoneiddio). (Pan nad yw wedi ïoneiddio, ffurfia asid ffosfforig (H3PO4).)
Ers yr 1890au mwyngloddio creigiau ffosffad anorganig bu brif ffynhonnell yr elfen. Ar ffurf (amhur) ffosffad calsiwm (apatit) y mae'r rhan fwyaf ohono. Fe'i ffurfiwyd o waddodion morol dros filiynau o flynyddoedd cyn dod i'r wyneb drwy symudiadau tectonig y ddaear. Yn yr Unol Daleithiau cychwynnodd y diwydiant, ond mae bellach cyflenwadau sylweddol ohono yn Tsieina a Rwsia. Ond o bwys yn yr hinsawdd geo-wleidyddol bresennol yw bod tua hanner cyflenwad y byd i'w canfod mewn gwledydd arabaidd , yn bennaf Moroco, lle mae dros 70% ar hyn o bryd.
Mae'r elfen ffosfforws yn bresennol ym mhopeth byw at y ddaear ac nid oes modd cynnal bywyd hebddo. Mae'n chwarae rôl hollbwysig ym mhrosesau biocemeg rheoli ac egnio bywyd. Mae'n debyg iddo chwarae rhan holl bwysig wrth i fywyd ffurfio (abiogenesis) tua phedwar biliwn (mil miliwn) o flynyddoedd yn ôl. Datgelir hyn heddiw yn ei rôl greiddiol mewn asidau niwclëig (DNA ac RNA) a'r ffosffolipidau sy'n ffurfio pilen pob cell - ddwy gydran hanfodol i fywyd. Mae'n rhan hollbwysig a gweithredol o'r moleciwl ATP sy'n ganolog i gyfundrefn egni bywyd at y ddaear. Mae'n debygol fod adweithiau’r moleciwl hwn (sef ATP) a'u gwreiddiau yn y byd abiotig.
Halwynau ffosffad calsiwm yw cyfansoddiad "caled" esgyrn a dannedd
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ffosfforws, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.