Un o'r asidau niwclëig yw RNA (Ribonucleic acid (Saesneg)).
Mae'n chwarae rhannau anhepgorol ym mhob cell byw. Mae i RNA nifer o swyddogaethau gwahanol. Er enghraifft, mae mRNA (m = "messenger" (Saes), negesydd) yn rhan o'r broses o drosglwyddo'r wybodaeth a gedwir yn nhrefn niwcleotidau DNA i strwythur protinau. Proteinau yw'r catalyddion gweithredol sy'n gyfrifol am yr hyn yr adnabyddir fel bywyd biolegol. Mae tRNA (t = trosi) yn allweddol yn y broses o drosi'r wybodaeth yn nilyniant DNA (mewn "iaith" niwcleotidau) i ddilyniant asidau amino proteinau, tra bo rRNA (r = ribosom) yn chwarae rhannau yn strwythur ac ymddygiad ribosomau (yr organynnau sy'n adeiladu protinau).
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth strwythurol cyfansoddion cemegol |
---|---|
Math | asid niwclëig, biopolymer, cynnyrch gennyn, polyribonucleotide |
Rhan o | RNA binding, RNA catabolic process, RNA metabolic process, RNA phosphodiester bond hydrolysis, RNA transport, RNA transmembrane transporter activity, protein-DNA-RNA complex, ribosom, ribonucleoprotein granule, protein-lipid-RNA complex, HDL-containing protein-lipid-RNA complex, LDL-containing protein-lipid-RNA complex, ribonucleoprotein complex, RNA import into nucleus, RNA export from nucleus, RNA import into mitochondrion, gene silencing, RNA biosynthetic process, ATP-dependent activity, acting on RNA, catalytic activity, acting on RNA |
Yn cynnwys | ribonucleotide, RNA motif |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yng nghanrif 21, darganfuwyd sawl math o RNA sy'n ymwneud â rheoli gweithgaredd celloedd. Disgwylir i sawl un o'r rhain fod yn bwysig mewn biotechnoleg ac ym meddyginiaethau'r dyfodol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article RNA, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.