Mae dant (lluosog: dannedd) yn helpu i dorri, rhywgo a malu bwyd cyn bod y bwyd yn cael ei lyncu.
Mae gwahanol fathau o ddannedd. Mae gan fodau dynol dri math o ddannedd. Mae'r cilddannedd fel arfer yng nghefn y geg yn malu'r bwyd yn fân. Mae'r dannedd llygad yn hir ac yn finiog iawn. Defnyddir dannedd llygad i ddal gafael yn y bwyd. Mae'r blaenddannedd ym mhen blaen y geg, fel yr awgryma'r enw, ac fe'u defnyddir i rwygo'r bwyd.
Mae dannedd yn wahanol mewn anifeiliad eraill. Mae gan y cigysyddion (bwytwyr cig) ddannedd sydd yn addas i ladd anifeiliad eraill ac i rwygo cnawd. Mae'r dannedd llygad yn hir a miniog i afael yn dynn mewn cnawd a'r cilddannedd yn cracio a malu esgyrn yn fan. Mae gan lysysyddion (bwytwyr cig) ddannedd sy'n addas i fwyta planhigion. Mae'r blaenddannedd yn torri a'r cilddannedd yn malu'n fan.
Ceir sôn am ddannedd yn yr hen benillion:
Roedd yna arferiad (ffashiwn?) ddechrau’r 20ed ganrif sy’n anodd iawn i ni ddeall erbyn heddiw, sef talu deintydd i dynnu’ch dannedd i gyd er mwyn prynu danedd gosod (dannedd dodi) smart a di-drafferth i bara am oes! Dyma ddwy enghraifft byw o ddyddiadur Griffith Thomas (11 mlynedd rhwng y ddau!):
Dyma rai cofnodion o hyn wedi eu codi o Facebook (Grwp Cymuned Llên Natur):
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dant, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.