Tiriogaeth Ffrainc yn nwyrain y Cefnfor Tawel yw Ynys Clipperton (Ffrangeg: Île de Clipperton), sy'n atol gwrel heb neb yn byw arni.
Mae ganddi arwynebedd o 6 km². Fe'i lleolir tua 1,080 km o'r arfordir gorllewinol Mecsico. Mae ganddi'r statws arbennig o fod yn eiddo preifat Gwladwriaeth Ffrainc, o dan awdurdod uniongyrchol Gweinidog y Tramor.
Math | ynys, rhestr tiriogaethau dibynnol, Atol, WWF ecoregion |
---|---|
Enwyd ar ôl | John Clipperton |
Poblogaeth | 0 |
Cylchfa amser | UTC−08:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Tiriogaethau tramor Ffrainc |
Sir | Ffrainc |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 6 km² |
Uwch y môr | 29 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 10.2939°N 109.2172°W |
Cod post | 98799 |
FR-CP | |
Rheolir gan | High Commissioner of the Republic in French Polynesia |
Darganfuwyd yr ynys ym 1528 gan Alvaro Saavedra Cedrón a gomisiynwyd gan Hernando Cortés i ddarganfod llwybr i'r Philipinau.
Ailddarganfuwyd yr ynys ddydd Gwener y Groglith, 3 Ebrill 1711 gan y Ffrancwyr Martin de Chassiron a Michel Du Bocage. Fe wnaethant lunio'r map cyntaf a hawlio'r ynys am Ffrainc. Cafodd yr enw "Île de la Passion" ("Ynys y Dioddefaint"). Arweiniodd Bocage alldaith wyddonol yno ym 1725.
Daw'r enw cyfredol gan John Clipperton, môr-leidr a phreifatîr o Loegr a ymladdodd y Sbaenwyr yn gynnar yn y 18g. Efallai ei fod wedi ei defnyddio fel man cychwyn ar gyfer ei gyrchoedd.
Hawliwyd yr ynys gan Mecsico yn y 1840au, yr Unol Daleithiau ym 1858 a Ffrainc ym 1858. Fe'i cipiwydd gan Mecsico ym 1897, a phrynodd y British Pacific Island Company hawliau cloddio gwano o'r tir ym 1906. Erbyn 1914 roedd tua 100 o bobl - dynion, menywod a phlant - yn byw yno, yn cael eu cyflenwi bob dau fis gan long o Acapulco.
Ond ym 1914 suddodd y llong gyflenwi. Yn ystod anhrefn y Chwyldro Mecsico a'r Rhyfel Byd Cyntaf anghofiwyd yr ynyswyr. Daeth eu sefyllfa'n fwyfyw enbyd. Bu farw llawer o'r clefri poeth. Erbyn 1917 dim ond 15 o bobl oedd yn fyw. Ar ôl eu hachub ni wnaed mwy o ymdrechion i wladychu’r lle.
Ar ôl proses hir a ddechreuodd ym 1909, o'r diwedd datganodd Vittorio Emanuele III, brenin yr Eidal, gan weithredu fel cymrodeddwr, fod yr ynys yn feddiant Ffrengig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ynys Clipperton, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.