Mae Tonga (yn swyddogol Teyrnas Tonga; yn y Tongaeg: Puleʻanga Fakatuʻi ʻo Tonga) yn wlad sofran, ac yn wlad ynys ym Mholynesia, sy'n rhan o Oceania.
Mae ganddi 171 o ynysoedd - gyda phobl yn byw ar 45 ohonynt nhw. Cyfanswm arwynebedd y wlad yw tua 750 cilometr sgwar (290 milltir sgwar) a hynny wedi ei wasgaru dros arwynebedd o tua 700,000 o gilometrau sgwar (270,000 milltir sgwar)yn Ne'r Cefnfor Tawel. O 2021 ymlaen, yn ôl Johnson's Tribune, mae gan Tonga boblogaeth o 104,494, gyda 70% ohonynt yn byw ar y brif ynys, sef Tongatapu. O'i hamgylch mae Fiji a Wallis a Futuna (Ffrainc) i'r gogledd-orllewin, Samoa i'r gogledd-ddwyrain, Caledonia Newydd (Ffrainc) a Fanwatu i'r gorllewin, Niue (y diriogaeth dramor agosaf) i'r dwyrain, a Kermadec (Seland Newydd) i'r de-orllewin. Mae Tonga tua 1,800 kilometre (1,100 mi) o Ynys y Gogledd, Seland Newydd ac mae'n aelod o Gymanwlad Lloegr.
Brenhiniaeth Tonga Puleʻanga Fakatuʻi ʻo Tonga | |
Arwyddair | God and Tonga are my Inheritance |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, ynys-genedl |
Prifddinas | Nuku'alofa |
Poblogaeth | 108,020 |
Sefydlwyd | 4 Mehefin 1970 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr) |
Anthem | Ko e fasi 'o e tu'i 'o e 'Otu Tonga |
Pennaeth llywodraeth | Pohiva Tuʻiʻonetoa |
Cylchfa amser | UTC+13:00, Pacific/Tongatapu |
Gefeilldref/i | Auckland, Owariasahi |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tongan, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Polynesia |
Gwlad | Tonga |
Arwynebedd | 748.506563 km² |
Yn ffinio gyda | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 20.58778°S 174.81028°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Deddfwriaethol Tonga |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Brenhiniaeth Tonga |
Pennaeth y wladwriaeth | Tupou VI of Tonga |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Tonga |
Pennaeth y Llywodraeth | Pohiva Tuʻiʻonetoa |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $469.2 million |
Arian | Tongan paʻanga |
Cyfartaledd plant | 3.722 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.745 |
Daeth gwareiddiad Lapita i fyw i Tonga am y tro cyntaf tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl, sef gwladfawyr (neu 'wladychwyr') Polynesaidd a esblygodd yn raddol ei hunaniaeth ethnig ei hun, gyda iaith adiwylliant unigryw. Roeddent yn gyflym i sefydlu sylfaen bwerus ar draws De'r Môr Tawel, a gelwir y cyfnod hwn o ehangu a gwladychu Tonga yn Ymerodraeth Tui Tonga. O reolaeth y brenin Tongan cyntaf, ʻAhoʻeitu, tyfodd Tonga'n bŵer rhanbarthol. Gorchfygodd ac aeth ati i reoli rhannau o'r Môr Tawel, o rannau o Ynysoedd Solomon a'r cyfan o Caledonia Newydd a Ffiji yn y gorllewin i Samoa a Niue a hyd yn oed cyn belled â rhannau o Polynesia Ffrengig heddiw yn y dwyrain. Daeth Tuʻi Tonga yn enwog am ei dylanwad economaidd, ethnig, a diwylliannol dros y Môr Tawel, a barhaodd hyd yn oed ar ôl chwyldro Samoaidd y 13g a darganfyddiad Ewropeaid o'r ynysoedd yn 1616.
Rhwng 1900 a 1970, roedd gan Tonga statws gwladwriaeth warchodedig Brydeinig hy roedd Lloegr wedi'i meddiannu, ei gwladychu. Gofalodd y DU am faterion tramor Tonga o dan Gytundeb Cyfeillgarwch Tonga, ond ni ildiodd Tonga ei sofraniaeth i unrhyw bŵer tramor. Yn 2010, cymerodd gam pendant i ffwrdd o'i brenhiniaeth absoliwt draddodiadol a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol gwbl weithredol, ar ôl i ddiwygiadau deddfwriaethol baratoi'r ffordd ar gyfer ei hetholiadau cynrychioliadol cyntaf. Fel a ddigwyddodd yn Lloegr, daeth y brenin a'r frenhines yn ddim mwy na phwped.
Mewn llawer o ieithoedd Polynesaidd, gan gynnwys Tongeg, mae'r gair yn deillio o fakatonga, sy'n golygu 'tua'r de'. Enwir yr archipelago hefyd gyda'r enw hwn oherwydd dyma'r grŵp mwyaf deheuol ymhlith grwpiau ynysoedd gorllewin Polynesia. Mae'r gair tonga yn gytras â'r gair Hawäieg "kona", sy'n golygu "yr ochr lle chwytha'r gwynt", sef tarddiad yr enw ar gyfer Ardal Kona yn Hawaii.
Yn ôl mytholeg Tonganaidd, lluniodd y duw Maui grŵp o ynysoedd o'r cefnfor, gan ymddangos gyntaf yn Tongatapu, Ynysoedd Ha'apai a Vava'u, gan integreiddio i'r hyn a ddaeth yn Tonga heddiw.
Roedd grŵp a siaraant yr ieithoedd Awstronesaidd yn gysylltiedig â'r hyn y mae archeolegwyr yn ei alw'n ddiwylliant Lapita. Roedd y grwp (neu'r bobl) yma i'w cael o Ynys Melanesia i Samoa, gan ehangu ymhellach a phreswylio yn Tonga rhwng 1500 a 1000 BC. Mae ysgolheigion yn dal i ddadlau yn union pryd y setlwyd Tonga am y tro cyntaf, ond mae dyddio thoriwm diweddar yn cadarnhau bod gwladfawyr wedi cyrraedd y dref breswyl gynharaf y gwyddys amdani, Nukuleka, erbyn 888 CC, ± 8 mlynedd. Rhannwyd hanes rhag-gyswllt Tonga trwy hanes llafar, a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth.
Erbyn y 12g, roedd y Tonganiaid a brenin Tongan y Tui Tonga, wedi ennill enw da ar draws canol y Môr Tawel – o Niue, Samoa, Rotuma, Wallis a Futuna, Caledonia Newydd i Tikopia, gan arwain rhai haneswyr i sôn am Ymerodraeth Tonga yn Nhwi yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'n hysbys bod rhyfeloedd cartref wedi digwydd yn Tonga yn y 15g a'r 17g.
Daeth pobl Tongan ar draws gwladychwyr Ewropeaidd am y tro cyntaf yn 1616, pan ymwelodd llong Iseldiraidd yr Eendracht, dan arweiniad Willem Schouten, â'r ynysoedd gyda'r diben o fasnachu. Yn ddiweddarach, cyrhaeddodd fforwyr eraill o'r Iseldiroedd, gan gynnwys Jacob Le Maire (a ymwelodd ag ynys ogleddol Niuatoputapu); ac Abel Tasman (a ymwelodd â Tongatapu a Ha'apai) yn 1643. Ymhlith yr ymwelwyr Ewropeaidd nodedig diweddarach oedd James Cook, o Lynges Lloegr, a hynny yn 1773, 1774, a 1777; fforwyr Llynges Sbaen Francisco Mourelle de la Rúa yn 1781; Alessandro Malaspina yn 1793; y cenhadon cyntaf o Lundain yn 1797; a gweinidog gyda'r Methodistiaid Wesleaidd, y Parchedig Walter Lawry, yn 1822.
Wedi'i leoli yn Oceania, mae Tonga yn archipelago yn Ne'r Môr Tawel, yn union i'r de o Samoa a thua dwy ran o dair o'r ffordd o Hawai'i i Seland Newydd. Rhennir ei 171 o ynysoedd, yn dri phrif grŵp - Vava'u, Ha'apai, a Tongatapu - sy'n gorchuddio llinell gogledd-de 800 kilometre (500 mi) o hyd.
Mae'r ynys fwyaf, Tongatapu, lle mae prifddinas Nuku'alofa wedi'i lleoli, yn gorchuddio 257 cilometr sgwar (99 milltir sgwar). Yn ddaearegol, mae ynysoedd Tongan o ddau fath: mae gan y rhan fwyaf sylfaen galchfaen a ffurfiwyd o ffurfiannau cwrel wedi codi; mae eraill yn cynnwys calchfaen a orchuddiwyd gan sylfaen folcanig .
Mae gan Tonga hinsawdd fforest law drofannol gyda chyfnod cynnes rhwng Rhagfyr ac Ebrill, pan fydd y tymheredd yn codi uwchlaw 32 °C (89.6 °F), a chyfnod oerach (Mai-Tachwedd), gyda thymheredd nad yw'n codi'n aml uwchlaw 27 °C (80.6 °F). Mae'r tymheredd a'r glawiad yn amrywio o 23 °C (73.4 °F) a 1,700 milimetr (67 modfedd) ar Tongatapu yn y de i 27 °C (80.6 °F) a 2,970 milimetr (117 modf) ar yr ynysoedd mwy gogleddol yn nes at y Cyhydedd.
Awstralia | Awstralia · Ynysoedd Cocos · Ynys y Nadolig · Ynys Norfolk | |
Melanesia | Caledonia Newydd · Fanwatw · Ffiji · Papua Gini Newydd · Ynysoedd Solomon | |
Micronesia | Gwam · Ciribati · Ynysoedd Gogledd Mariana · Ynysoedd Marshall · Taleithiau Ffederal Micronesia · Nawrw · Palaw | |
Polynesia | Ynys Clipperton · Ynysoedd Cook · Niue · Ynysoedd Pitcairn · Polynesia Ffrengig · Samoa · Samoa America · Seland Newydd · Tocelaw · Tonga · Twfalw · Wallis a Futuna |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tonga, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.