Clefyd sy'n ganlyniad i ddiffyg fitamin C yw'r clefri poeth (hefyd clafri poeth, y llwg, y sgyrfi a sciabas; Saesneg: scurvy).
Mae symptomau yn cynnwys gwendid, blinder, a breichiau a choesau poenus. Heb ei drin, gall arwain at leihad yng nghelloedd coch y gwaed, llid y deintgig, newidiadau i wallt, a gwaedu o'r croen. Wrth i'r clefyd waethygu, gall amharu ar allu clwyfau i wella, achosi newid ym mhersonoliaeth y claf, ac arwain yn y pen draw at farwolaeth o haint neu waedu.
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | clefyd diffyg maethiad, ascorbic acid deficiency, vitamin deficiency, clefyd |
Dyddiad darganfod | 2000 (yn y Calendr Iwliaidd) CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fel arfer, mae'r clefri poeth yn cael ei achos gan ddiffyg fitamin C yn y deiet. Mae'n cymryd o leiaf mis gydag ychydig neu ddim fitamin C o gwbl cyn y gwelir y symptomau. Erbyn heddiw, mae i'w weld amlaf mewn pobl sy'n dioddef o salwch neu gyflwr meddwl, bwyta anarferol, alcoholiaeth neu henoed sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Mae ffactorau risg eraill hefyd yn cynnwys dialysis a gallu'r perfedd i dreulio bwyd. Mae diagnosis fel arfer yn seiliedig ar arwyddion corfforol, pelydrau X, a gwellhad ar ôl triniaeth.
Mae'n cael ei drin atchweniadau fitamin C sy'n cael eu cymryd trwy'r ceg. Mae gwelliant yn aml i'w weld mewn ychydig ddyddiau gyda gwellhad llwyr mewn ychydig wythnosau. Mae ffynonellau fitamin C yn cynnwys ffrwythau sitrws, tomatos a nifer o lysiau fel tatws. Mae coginio yn aml yn lleihau fitamin C mewn bwydydd.
Mae'r clefri poeth yn anghyffredin ar hyn o bryd. Mae i'w weld amlaf yn y byd sy'n datblygu mewn perthynas â diffyg maeth. Ceir adroddiadau bod cyfraddau ymhlith ffoaduriaid rhwng 5% a 45%. Ceir disgrifiadau cynnar o'r clefyd yn hen wlad yr Aifft. Roedd yn cyfyngu ar bellter mordeithiau ar un adeg, ac yn arwain at farwolaeth nifer fawr o deithwyr. Llawfeddyg yn y Llynges Frenhinol, James Lind, oedd y cyntaf i brofi ei fod yn gallu cael ei drin gyda ffrwythau sitrws, a chyhoeddodd ei ddarganfyddiad mewn cylchgrawn yn 1753. Ei arbrofion oedd y rhai cyntaf i'w cynnal mewn dull oedd wedi'i reoli. Aeth deugain mlynedd arall heibio cyn y dechreuodd y Llynges ddosbarthu sudd lemwn yn rheolaidd i osgoi'r clefyd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Clefri poeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.